Arweiniad Gyrfa

Manon Charles
Ymgynghorydd Gyrfaoedd i Seicoleg 
mac187@aber.ac.uk

Fel yr Ymgynghorydd Gyrfaoedd ar gyfer Seicoleg, rwyf yma i’ch helpu a’ch cynghori ar bob cam o’ch taith o gynllunio gyrfa; o’r ansicrwydd ‘beth ddylwn i ei wneud neu beth wyf i am ei wneud nesaf?’ i ymgeisio am brofiad gwaith a swyddi. Gyda’n gilydd gallwn edrych ar yr opsiynau niferus sydd ar gael i chi fel myfyriwr israddedig yn yr adran Seicoleg; gallwn fapio eich cryfderau a chynllunio sut i barhau i ddatblygu eich sgiliau dros gyfnod eich gradd.

Rydw i’n rhoi arweiniad gyrfa 1:1, wyneb yn wyneb a dros Teams, lle gallwch siarad am eich opsiynau gyrfa neu gael cyngor ar unrhyw beth sy’n ymwneud â’ch gyrfa. Gallaf eich cynorthwyo gydag amrywiol elfennau allweddol gyrfaol e.e. llunio proffil LinkedIn; creu CV israddedig ac uwchraddedig; ymgeisio am gyfleoedd a pharatoi am gyfweliadau a gwneud y gorau o’r gwasanaeth a ddarperir am ddim i fyfyrwyr, megis LinkedIn Learning. I drefnu apwyntiad ewch i’r tab Apwyntiadau ar gyrfaoeddABER a threfnu amser sy’n addas i chi: www.aber.ac.uk/ABERcareers.

GyrfaoeddABER yw ein porth ar-lein lle gallwch fanteisio ar ein gwasanaethau, digwyddiadau cyflogwyr, Sgiliau a Gweithdai Gyrfa, cronfa ddata o swyddi gwag gyda lleoliadau, cyfleoedd gwaith yn ogystal ag adnoddau i helpu gyda chynllunio eich gyrfa. Mewngofnodwch trwy ddefnyddio eich enw defnyddiwr a chyfrinair Prifysgol Aberystwyth.

Rydw i’n edrych ymlaen at weithio gyda chi a’ch cynorthwyo i gychwyn ar eich taith i gynllunio eich gyrfa.