Disgrifiad y cwrs

O'r cychwyn cyntaf, bydd eich cwrs gradd seicoleg yn cyflwyno’r prif syniadau, damcaniaethau a chanlyniadau ymchwil sydd wedi dylanwadu ar seicoleg mewn meysydd megis seicoleg gymdeithasol, gwahaniaethau unigol a bioseicoleg. Cewch ddysgu sut i ymchwilio i ymddygiad pobl trwy gael hyfforddiant manwl yn y dulliau ymchwil a ddefnyddir gan seicolegwyr. Mae damcaniaethau ac archwilio yn greiddiol i Seicoleg a bydd astudio'r ddwy elfen hynny yn datblygu eich gallu i ddeall sut mae pobl yn ymdrin â’i gilydd.O Fedi 2009 ymlaen bydd modd i chi astudio naill ai am radd seicoleg anrhydedd sengl neu radd anrhydedd cyfun.

Pa gwrs bynnag a ddewiswch, bydd popeth a ddysgwch wedi'i roi yng nghyd-destun problemau'r byd go iawn. Ein nod, a’n hawydd, yw datblygu graddedigion seicoleg sy'n gallu meddwl mewn modd creadigol a llawn dychymyg, ac sy'n gallu defnyddio eu sgiliau dadansoddi mewn amrywiaeth eang o sefyllfaoedd, ym maes seicoleg neu mewn disgyblaethau eraill.