Anrhydedd Cyfun Seicoleg a Throseddeg

Mae gradd anrhydedd cyfun Seicoleg a Throseddeg (CM89)  yn rhoi cyfle ardderchog i astudio dau bwnc yn fanwl gan ystyried sut mae seicoleg yn gallu cyfrannu at eich dealltwriaeth o lawer cwestiwn cymhleth. Mae’n cyrsiau seicoleg yn rhoi’r cyfle i chi astudio dau bwnc annibynnol ond cysylltiedig, gan roi pwysau cyfartal i’r ddau faes. Cwestiynau Cyffredin gan Fyfyrwyr

Yn aml mae gan fyfyrwyr gwestiynau am astudio gradd anrhydedd cyfun:

1.  Beth mae anrhydedd cyfun yn ei olygu?

Mae pob gradd israddedig yn cynnwys 360 o gredydau – 120 bob blwyddyn mewn gradd dair blynedd. Drwy gymryd gradd anrhydedd cyfun mae’n golygu y byddwch yn rhoi 50% o’ch amser yn astudio gyda ni yn Seicoleg, a 50% yn eich adran arall. 

2.  Beth y byddaf yn ei astudio mewn gradd anrhydedd cyfun?

Yn eich blwyddyn gyntaf byddwch yn astudio tri modiwl craidd yn Seicoleg, sef Safbwyntiau ar Ymddygiad Cymdeithasol ac Unigol (semester un), Safbwyntiau ar Seicofioleg a Gwybyddiaeth (semester dau), ac Ymchwilio a Chyfathrebu, sy’n rhedeg ar draws y ddwy semester.

Yn yr ail flwyddyn a’r drydedd, rydym yn datblygu’r modiwlau hyn ymhellach a chyflwyno pynciau seicoleg eraill, gan gynnwys: Seicoleg Gymdeithasol, Ymennydd ac Ymddygiad; Seicoleg Wybyddol a Datblygiadol yn ogystal â Seicoleg Gwahaniaethau Unigol. Mae Dulliau Ymchwil yn rhan bwysig o ddysgu’r ail flwyddyn. Yn y modiwl hwnnw fe ddysgwch dechnegau ystadegol uwch yn ogystal â dulliau ymchwil ansoddol, megis sut i ddadansoddi sgyrsiau a chynnal cyfweliadau a grwpiau trafod.

Erbyn y drydedd flwyddyn byddwch yn hollol gymwys i gynllunio eich ymchwil eich hun a gwneud y gwaith ymchwil hwnnw. Felly byddwch yn treulio rhan fawr o’ch trydedd flwyddyn yn ymchwilio i bwnc sydd o ddiddordeb i chi. Er nid yw’n orfodol, disgwylir y bydd eich ymchwil yn cyd-fynd â’ch pwnc gradd arall. Er enghraifft, defnyddio cyfathrebu darbwyllol mewn Marchnata, neu ddylanwad gwahaniaethau rhwng diwylliannau ar ddenu.

Cewch wybod beth y byddwch yn ei astudio yn hanner arall eich gradd drwy glicio ar y cysylltiadau uchod.

3.  Beth yw manteision ac anfanteision astudio am radd anrhydedd cyfun? Ydy hi’n golygu mwy o waith?

Fel llawer o agweddau ar fywyd, mae manteision ac anfanteision o gymryd gradd anrhydedd cyfun. Mae llawer o fyfyrwyr wrth eu bodd o gael cyfle i astudio dau faes sydd o ddiddordeb mawr iddynt ar lefel uwch ac rydym yn ceisio cynorthwyo myfyrwyr wrth iddynt fagu cysylltiadau ar draws y pynciau. Mae prosiect yn y flwyddyn olaf yn ffordd wych o wneud hynny, ac fe geisiwn sicrhau bod seminarau yn cynnig cyfleoedd i feithrin cysylltiadau. Gellid gweld y ffaith na fyddai modd astudio agweddau mwy arbenigol yn anfantais, megis seicoleg iechyd, neu seicoleg gymdeithasol a gwybyddol uwch. Serch hynny, fe gewch eich cyflwyno i bob un o’r meysydd hyn ar ryw adeg yn ystod eich gradd.

Bydd disgwyl i chi weithio yn galed, ni waeth ai gradd anrhydedd sengl neu gyfun a ddewiswch; mae hi’n hollol wir bod yr ymdrech y byddwch chi’n ei gwneud yn cael ei hadlewyrchu yn safon y radd a gewch pan fyddwch yn graddio.