Anrhydedd Sengl
O fis Medi 2009 bydd gradd BSc anrhydedd sengl ar gael (rhaglen 3 blynedd).Mae Seicoleg yn boblogaidd iawn ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae datblygu’r radd anrhydedd sengl yn gyfraniad mawr tuag at y cynlluniau gradd sydd ar gael i’n myfyrwyr.
Os dewiswch astudio am radd anrhydedd sengl mewn seicoleg, byddwch yn astudio am 120 o gredydau bob blwyddyn yn nhair blynedd eich cwrs gradd. Yn y flwyddyn gyntaf cewch gyflwyniad i’r prif gysyniadau sydd yn sail i seicoleg. Maent yn cynnwys seicolegau cymdeithasol, datblygiadol a gwahaniaethau unigol, ar y cyd â seicoleg fiolegol a gwybyddol, a dulliau ymchwil. I’ch helpu i ddeall sut y defnyddir seicoleg yn y byd go iawn byddwch hefyd yn astudio’r modiwl ‘Applications in Psychology’. Darparu profiad addysgiadol ardderchog ac eang yw nod y Brifysgol, ac er mwyn i chi ddatblygu’ch medrau academaidd ymhellach ym mlwyddyn gyntaf eich gradd, cewch gyfle i astudio am 40 credyd mewn adrannau eraill. Fe gewch gymorth eich darlithwyr wrth ddewis yr adran. Ond er ein bod yn ddigon hapus cynnig awgrymiadau, mewn gwirionedd eich cyfle chi yw hwn i roi cynnig ar rywbeth newydd, fel astudio iaith, neu fodiwl yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol fyd-enwog, neu’r adran arloesol Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu. Cewch hyd yn oed roi prawf ar eich ymennydd drwy astudio “Anrhefn ac Ymwybyddiaeth” yn y Sefydliad Mathemateg a Ffiseg! Beth bynnag a ddewiswch, byddwch yn datblygu medrau pwysig a fydd o gymorth i chi yn eich gradd ac yn eich bywyd ar ôl graddio.
Modiwlau “craidd” yn unig sydd yn ail flwyddyn y radd anrhydedd sengl. Dyna’r agweddau hanfodol ar y pwnc y mae angen i chi eu deall fel myfyriwr seicoleg. Byddwch hefyd yn edrych eto ar y pynciau a gyflwynwyd yn eich blwyddyn gyntaf, ond yn y flwyddyn hon byddwch yn astudio ar lefel uwch (anrhydedd) gan roi prawf pendant ar eich gallu i ddeall cysyniadau cymhleth iawn. Yn annhebyg i lawer o brifysgolion, dim ond yn eich ail flwyddyn yn Aberystwyth y byddwch yn dechrau defnyddio meddalwedd gyfrifiadurol i ddysgu’ch ystadegau. Mae profiad yn dangos inni mai drwy ddefnyddio fformiwlâu a chyfrifianellau i ymdrin ag ystadegau yn y flwyddyn gyntaf y mae datblygu dealltwriaeth go iawn o’r pwnc – ac mae’n myfyrwyr presennol yn cytuno. Yn eich ail flwyddyn cewch gyflwyniad i feddalwedd ystadegol, ond serch hynny bydd yn rhaid i chi hefyd ddysgu pam nad dulliau meintiol yw’r unig ffordd o ymchwilio i seicoleg. Mae hyn yn golygu y byddwch hefyd yn dysgu dulliau ymchwil meintiol uwch, gan adeiladu ar seiliau eich blwyddyn gyntaf.
Yn eich blwyddyn olaf cewch gyfle i ddewis beth yr hoffech ei astudio. Mae modiwlau ar gael o fewn meysydd arbenigedd ein staff. Er enghraifft, cewch astudio seicoleg iaith, neu seicoleg heneiddio. Cewch ddysgu mwy am ryngweithio cymdeithasol yn y byd go iawn a’r rhith amgylchedd, neu fe allwch edrych ar gymhlethdodau seicoleg fel y’i cymhwysir i iechyd a salwch. Efallai y bydd gennych ddiddordeb penodol mewn elfen o seicoleg nad yw’n rhan o’r cyrsiau a ddysgir, ac os felly cewch ymchwilio i’r diddordeb hwnnw ym modiwl y Traethawd Hir gyda chymorth arbenigwr o blith y staff. Yn unol â’n nod o ddatblygu’ch medrau fel unigolyn cewch ddewis astudio 20 credyd mewn adran arall, os ydych yn bodloni rhai gofynion penodol i’r pwnc hwnnw ymlaen llaw.
Ni waeth pa fodiwlau a ddewiswch, mae’ch blwyddyn olaf yn gyfle i chi roi ar waith y sgiliau ymchwil y buoch yn eu dysgu dros y ddwy flynedd flaenorol wrth i chi ddylunio a chynnal eich prosiect yn eich blwyddyn olaf. I lawer o fyfyrwyr, dyma’r rhan fwyaf cyffrous o’u gradd, gan eu bod yn gweithio gyda goruchwyliwr sydd yn arbenigwr yn y maes i ymchwilio i gwestiwn ymchwil o’u dewis. Mae’r dewis o bynciau ymchwil yn amrywiol ac fe gewch gymorth drwy gydol y broses wrth i chi weithio tuag at adroddiad eich prosiect ymchwil a phoster ymchwil o ansawdd uchel, sydd yn rhannau o’ch asesiad yn eich blwyddyn derfynol.