Cyhoeddiadau

Taflen Llety

Yma yn Aberystwyth rydyn ni’n deall beth sydd ei eisiau a’i angen arnoch chi yn eich neuaddau preswyl; dyma un o’r nifer o resymau pam y pleidleisiodd myfyrwyr mai ni yw un o brifysgolion gorau’r DU o ran bodlonrwydd myfyrwyr.

Yn ddiweddar rydyn ni wedi buddsoddi dros £24 miliwn i ddatblygu neuaddau preswyl i greu cartref-oddi-cartref i chi, sy’n cwrdd â holl ofynion myfyrwyr yr unfed ganrif ar hugain. Mae neuaddau preswyl Aberystwyth yn fodern, yn ddiogel ac yn cynnwys yr holl adnoddau y gallech fod eu hangen.

Un pwynt pwysig i’w gofio yw y gallwn sicrhau lle yn llety’r brifysgol i holl fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf, sydd yn golygu, yn y bôn, os ydych chi’n fyfyriwr blwyddyn gyntaf bod sicrwydd llety i chi yn un o’n neuaddau preswyl rhagorol ni.

Lawrlwythwch y Llyfryn Llety Diweddaraf nawr, neu archebwch gopi caled o’r llyfryn.