Y Prosbectws Amgen

Y myfyrwyr sy’n astudio yma ar hyn o bryd sy’n gyfrifol am ysgrifennu’r Prosbectws Amgen ac felly bydd yn rhoi safbwyntiau a sylwadau real i chi am y brifysgol.

Mae’n cynnwys pob agwedd o fywyd myfyriwr nad yw’r Prosbectws swyddogol yn ymdrin â hwy, gan gynnwys “Amser Rhydd yn Aber” sy’n eich arwain trwy rai o’r gweithgareddau gwych y gall Aberystwyth eu cynnig. Ar ben hyn, mae ynddo adran “goroesi” sy’n egluro popeth sydd angen i chi wybod am ymgartrefu yn y brifysgol.

Mwynhau bywyd prifysgol a chael profiad prifysgol gwych yw un o’r agweddau pwysicaf am fynd i’r brifysgol. Felly, dyma olwg ar Brifysgol Aberystwyth o’r tu fewn sy’n dangos pam mai gennym un y mae un o’r graddfeydd isaf ledled y DU o fyfyrwyr yn rhoi’r gorau i gwrs!

Yn anffodus nid yw'r Prosbectws Amgen ar gael i'w lawrlwytho ar hyn o bryd.  Ymddiheuriwn am hyn.