Cyhoeddiadau
Arall
Bywyd Cerddorol
Er gwaetha'r ffaith fod tref Aberystwyth yn cael ei chyfrif yn bell o bobman yn ddaearyddol, y mae hynny, yn groes i'r disgwyl, yn cryfhau ei safle cerddorol. Mae pob ymdrech yma yn ennyn y gorau gan bobl, yn wahanol i'r ymdrechion llai ymroddgar mewn rhai ardaloedd mwy poblog. Mae statws y dref fel canolfan amlwg i ddysg a'i safle canolog i ddiwylliant y fro yn sicrhau ei bod yn dynfa i liaws o gwmnïau opera, cerddorfeydd ac artistiaid o'r radd flaenaf i'w theatrau a'i neuaddau cyngerdd. Er nad yw'r Brifysgol bellach yn cynnig gradd mewn cerddoriaeth, y mae serch hynny yn cydnabod pwysigrwydd bywyd cerddorol llewyrchus. Gwybu cenedlaethau o fyfyrwyr am safon unigryw cerddoriaeth yn Aberystwyth. Mae'n fan ardderchog i astudio ynddo. Mae'n fan ardderchog i fyw ynddo. Mae'n fan gwych ar gyfer cerddoriaeth.