Cyhoeddiadau

Llyfryn Cyngor i Rieni

Diben y llyfryn hwn yw ateb rhai o'r cwestiynau sydd gennych chi, rieni neu warcheidwaid darpar-fyfyrwyr Aberystwyth. Gwn o brofiad ba feddyliau a theimladau sy'n cyniwair pan feddylir am blant yn gadael cartref. Am ein bod yn rhwym o ddymuno'r gorau i'n plant ac i fod yn uchelgeisiol trostynt, y mae'n bwysig inni weld eu bod yn mynd i Brifysgol lle byddant yn rhwym o ffynnu, Prifysgol a'u galluoga i osod sylfeini cadarn i yrfa lwyddiannus ac i ddyfodol llewyrchus. Diben y llyfryn hwn yw bod o gymorth i rieni a gwarcheidwaid na chawsant brofiad o addysg uwch eu hunain.

Cliciwch ar y llun isod i weld y llyfryn yma ar-lein, neu archebwch eich copi caled heddiw.