Cyhoeddiadau

Arall

Cyrsiau drwy gyfrwng y Gymraeg

Neges gan yr Athro Noel Lloyd, Is-Ganghellor a Phrifathro Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Mae'n fraint ac yn anrhydedd cyflwyno'r llyfryn hwn sy'n sôn am y cyfle i fyw a gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg yn Aberystwyth. Prin bod angen dweud bod dod i Aberystwyth yn gam naturiol i unrhyw fyfyriwr sydd am astudio mewn amgylchfyd sy'n Gymraeg drwyddo draw ac yn gosmopolitanaidd yr un pryd. Cynigir cyrsiau drwy gyfrwng y Gymraeg mewn nifer o bynciau, fel y gwelwch, ond mae'r pwyslais ar ddefnyddio'r iaith yma yn ddyfnach na hynny.

Ein nod yw creu amgylchedd ieithyddol lle gall yr holl fyfyrwyr, yn unol â'u dewis hwy eu hunain, astudio a chymdeithasu'n rhwydd yn y Gymraeg. Ein nod yw darparu'r cyfle - yn wir, yr anogaeth - i'r rheiny sy'n rhugl yn y Gymraeg, neu sy'n ddysgwyr, i ddatblygu eu cymwysterau ieithyddol hyd y gellir yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd, er mwyn iddynt fod yn ddinasyddion sy'n rhan lawn o gymdeithas ddwyieithog.

Dim ond yn y Gymraeg y mae'r cyhoeddiad hwn ar gael

LLwytho i lawr: