Skip logo, search and navigation. Go straight to the main content.

Cyhoeddiadau

Uwchraddedig

Hanes

Cafodd Hanes ei ddysgu yn Aberystwyth ers sefydlu'r Brifysgol yn 1872. Mae'r Adran yn un o'r rhai mwyaf yn y Brifysgol, ac y mae diddordebau ymchwil y staff yn ymestyn ar draws yr amrediad cronolegol a daearyddol llawn, o gyfnod y Rhufeiniaid i faterion gwleidyddol cyfoes, ac o Gymru i Brydain i America, Ffrainc a Rwsia. Bu haneswyr fel Richard Cobb, R.R. Davies, Gwynne Lewis, R.F. Treharne a Gwyn Alf Williams yn arloesi ym maes diddordebau hanes cymharol, mewn 'hanes oddi isod', ac adeiladu gwladwriaethau yn Ynysoedd Prydain a Ffrainc yn Aberystwyth. Mae cenhedlaeth newydd o haneswyr wedi ychwanegu at ddiddordebau ymchwil yr adran mewn meysydd fel hanes y cyfryngau, diwylliant gwleidyddol, Iddewon yn y byd lle siaredir Saesneg, y werin yn y byd canoloesol, chwaraeon, hanes merched a rhywedd, hanesyddiaeth a defnyddio technegau cyfrifiadurol i astudio'r gorffennol.

Llawrlwytho: