Skip logo, search and navigation. Go straight to the main content.

Cyhoeddiadau

Uwchraddedig

Ysgol Uwchraddedig Gwleidyddiaeth Ryngwladol

Fel canolfan ymchwil o'r radd flaenaf, rydym yn rhoi pwyslais arbennig ar gynnal Ysgol o safon uchel i Raddedigion. Rydym wedi ymrwymo swm sylweddol o'n harian adnoddau i hyn o ran ysgoloriaethau ymchwil ac adnoddau eraill megis cyfrifiaduron ac adnoddau swyddfa. O ganlyniad, mae ein Ysgol i Raddedigion yn llwyddiannus ac yn ffynnu. Un peth amlwg sy'n dangos hyn yw nifer y graddedigion sydd gennym - ar hyn o bryd mae tua 120 o fyfyrwyr o tua 40 gwlad. Mae'n beth hynod braf bod ein graddedigion (sydd â graddau Meistr neu Ddoethur) wedi bod yn llwyddiannus iawn wrth ddod o hyd i waith mewn amryw o feysydd gwahanol.

Un ffon fesur o enw da'r Adran yw ein bod wedi bod yn gyson lwyddiannus yng Nghystadleuaeth Ysgoloriaeth Ymchwil Uwchraddedig y Brifysgol. Ond nid yw ein llwyddiant wrth ddenu gwobrau wedi'i gyfyngu i Brifysgol Cymru yn unig. Mae'r Adran hefyd wedi bod yn llwyddiannus wrth dderbyn gwobrau gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, sef y prif gorff ariannu yn y DU i'r gwyddorau cymdeithasol. Bu'r llwyddiant hwn ar lefel doethuriaeth a gradd Meistr.