Cyhoeddiadau

Uwchraddedig

Gradd Meistr mewn Rheolaeth

Bydd y rhaglen gradd Meistr mewn Rheolaeth yn yr Ysgol Rheolaeth a Busnes yn rhoi'r sgiliau a'r wybodaeth angenrheidiol i lwyddo yn y byd masnach a diwydiant. Bydd eich profiad yn Aberystwyth yn eich galluogi i fwrw golwg ar y byd busnes i chwilio am gyfleoedd ac, ar y cyd â'r Ysgol, yn eich galluogi i lunio cynllun datblygu i sicrhau bod gennych yr awdurdod a'r hyder i ddilyn eich gyrfa ddewisiedig.

Bydd y rhaglen wedi'i llunio i'ch helpu mewn tair ffordd:

BOD yn arweinydd, yn greadigol, yn flaengar, yn ddibynadwy, yn gydwybodol, yn gallu gweithio mewn tîm, yn gyfathrebwr.

GWNEUD llawer o ddadansoddi, cyfuno, a dehongli sut i ddatrys problemau, a meddu ar ragwelediad a dychymyg.

GWYBOD am yr offer, y technegau a chysyniadau busnes.

Llawrlwytho:

Yn anffodus nid yw'r llyfryn hwn ar gael i'w lwytho i lawr ar hyn o bryd.