Skip logo, search and navigation. Go straight to the main content.

Cyhoeddiadau

Uwchraddedig

Teacher Training

Fe welwch o'r prosbectws hwn ein bod yn cynnig cyrsiau blwyddyn, amser llawn am gymhwyster Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) ar gyfer athrawon tri grwp oedran: Blynyddoedd Cynnar, Cynradd Hyn, ac Uwchradd. Cydnabyddir bod TAR yn gymhwyster sy'n rhoi statws athro cymwysedig i'r rheiny sydd am ddysgu yng Nghymru a Lloegr. Fe'i derbynnir hefyd mewn llawer o wledydd eraill fel cymhwyster i'ch gallogi i gael swydd ddysgu yno. Cadwch mewn cof y byddwch yn dod â llawer o'r sgiliau yr ydych ei angen i fod yn athro/athrawes gyda chi i'r cwrs TAR, a'r hyn y gallwn ni ei wneud yw eich helpu i ddefnyddio'r sgiliau hynny i ddysgu ac ymestyn eich dealltwriaeth er mwyn i chi allu dysgu'n effeithiol. Os ydych yn barod, ar ôl darllen y prosbectws hwn, i wneud cais i fynd ar un o'n cyrsiau TAR, gyrrwch eich ffurflen gais cyn gynted ag y bo modd. Os hoffech gael gair â rhywun am y posibilrwydd o wneud cwrs TAR, ewch i'r rhestr cysylltiadau yng nghefn y prosbectws a chysylltwch â'r aelod o'r staff sy'n fwyaf tebygol o allu'ch helpu.

Llawrlwytho: