Celf a Hanes Celf

Mae Celfyddyd Gain yn Aberystwyth yn ymroddedig i warchod sgiliau traddodiadol ochr yn ochr â'u datblygu mewn ffyrdd blaengar, i gynnal gwaith o safon uchel a magu craffter gweledol yn ogystal ag arloesi gyda datblygiadau yn y maes. Arlunio sydd wrth wraidd profiad y myfyrwyr. Rydym yn ei ystyried nid yn unig yn broses ond hefyd yn ffordd heb ei ail i'r myfyrwyr fagu'r ddirnadaeth, y craffter, a'r deheurwydd llaw i amgyffred a delweddu'r byd. Mae tynnu llun hefyd yn sylfaen i hyfforddiant yr holl gyfryngau eraill ac felly mae iddo le canolog yn y cwricwlwm, yn enwedig ym mlwyddyn gyntaf cynllun gradd. O ran yr adfywiad diweddar yn y diddordeb mewn sgiliau arlunio traddodiadol, mae'r Ysgol ar flaen y gad wrth ddysgu Arlunio.

Yn yr un modd, mae astudio Hanes Celf yn beth hynod ddisgybledig. Ystyrir bod y pwnc yn astudiaeth hanesyddol, athronyddol a beirniadol o arteffactau, technegau, testunau, a syniadau o fewn cyd-destun cymdeithasol, hanesyddol ac athronyddol. Mae'r cynlluniau gradd yn rhoi pwysau mawr ar allu'r myfyriwr i ymchwilio, dadansoddi, a phwyso a mesur gwybodaeth, ac i fynegi syniadau yn glir ar bapur ac ar lafar. Mae myfyrwyr yn astudio modiwlau craidd a dewisol sy'n olrhain y cyfnod o'r Dadeni tan heddiw a'r byd sydd ohoni. Cynigia'r cynlluniau arolwg cyffredinol o'r ddisgyblaeth yn ogystal ag astudiaeth arbenigol a thrwyadl o bynciau penodol. Mae'n bosibl i chi hefyd gyfuno Hanes Celf ag un ai Gelfyddyd Gain neu bwnc arall (er enghraifft, Ieithoedd Ewropeaidd, Saesneg, Hanes, ac Astudiaethau Gwybodaeth a Llyfrgellyddiaeth). Cynhelir llawer o'r modiwlau Hanes Celf gan haneswyr celf sydd hefyd yn arlunwyr, ac o'r herwydd mae astudio'r ddisgyblaeth yn berthnasol iawn ac yn cyd-dynnu â materion sy'n ymwneud â chreu delweddau.

Yn anffodus nid yw'r llyfryn hwn ar gael i'w lawrlwytho ar hyn o bryd. Ymddiheuriwn am hyn. Gellir archebu copiau caled o lyfrynnau arlein, ac hefyd ceir mwy o wybodaeth am cyrsiau israddedig ar ein gwefan, a drwy gysylltu â ni.