Astudiaethau Celtaidd a Gwyddeleg
Aberystwyth yw'r unig Brifysgol yng Nghymru lle dysgir yr holl ieithoedd Celtaidd sy'n dal i gael eu defnyddio'n feunyddiol heddiw, sef Gwyddeleg, Gaeleg yr Alban, Llydaweg a'r Gymraeg. Mae'r Llydaweg yn debyg i'r Gymraeg, ac er bod Gaeleg Iwerddon a Gaeleg yr Alban yn llai tebyg, erys cryn fantais gan y Cymry Cymraeg o ran eu dysgu. Bydd eich cyrsiau i gyd (ar wahân i'r Gymraeg wrth gwrs) yn dechrau o'r dechrau, a gallwch ddysgu popeth drwy gyfrwng y Gymraeg‹nid yw hyn yn bosibl ond yn Aberystwyth.
Mae mwy nag un cynllun gradd ar gael, ac nid oes rhaid ichwi astudio'r pedair iaith Geltaidd; craidd y cwrs yw ieithoedd a llên Cymru ac Iwerddon, tra bod Llydaweg a Gaeleg yr Alban yn ddewisiadau poblogaidd. Os ydych am astudio'r Wyddeleg heb Lydaweg a'r Gymraeg, awgrymir eich bod yn ystyried y Radd Gyfun mewn Gwyddeleg a phwnc arall. Ar y llaw arall, os ydych am ganolbwyntio ar y Gymraeg, neu ar y Gymraeg a Llydaweg ar y cyd, mae'n ddigon hawdd newid i'r Radd Sengl yn y Gymraeg ar ôl blwyddyn neu ddwy o'r Radd Astudiaethau Celtaidd. Mae yna gryn dipyn o hyblygrwydd, felly. Tra bod rhai myfyrwyr yn dewis canolbwyntio ar yr Oesoedd Canol, mae eraill yn ymddiddori mewn cyfnodau diweddarach.
Gallwch bori'r llyfryn astudiaethau celataidd drwy glicio ar y llun isod, neu gallwch archebu eich copi caled.