Cyfrifiadureg

Boed cyfrifiaduron yn gweithio'n llyfn neu, fel sy'n digwydd weithiau, yn camfihafio, mae llawer o bobl yn dal i'w cael yn anodd i'w deall. Ond nid yw cyfrifiaduron yn ddirgelwch. Ffrwyth eu gwneuthuriad yw eu hymddygiad, sydd yn ei dro yn gynnyrch gwyddonwyr cyfrifiadureg a pheirianwyr meddalwedd.

Gwaith Cyfrifiadureg yw chwilio am syniadau newydd sydd wrth wraidd caledwedd a meddalwedd cyfrifiaduron. Yn y bôn, mae'n ymwneud â chyffredinoli problemau penodol, proses a elwir yn haniaethu. Yn ôl gwyddonwyr cyfrifiadureg, mae symlrwydd yn dilyn cymhlethdod. Gall technegau haniaethu a chyffredinoli wneud y problemau a sut i'w datrys yn amlwg, rhywbeth sydd wrth wraidd systemau dyrys.

Cliciwch ar y llun isod er mwyn pori'r llyfryn Cyfrifiadureg nawr, neu gallwch archebu copi caled.