Cyrsiau Cefn Gwlad

Cynigia llawer o brifysgolion a sefydliadau addysg uwch gyrsiau yn ymwneud â chefn gwlad, felly pam dod i Aberystwyth?

Byddwch yn elwa o'r canlynol:

  • Prifysgol draddodiadol sy'n uchel ei chlod am ei chyrsiau cefn gwlad
  • Cyrsiau galwedigaethol sy'n berthnasol i anghenion cyflogwyr
  • Pwyslais ar ddatblygu sgiliau sydd eu hangen yn y gweithle
  • Hyblygrwydd i symud rhwng cyrsiau neu i gynyddu o HND i BSc
  • Teithiau astudio ym Mhrydain ac yn Ewrop

Mae staff brwdfrydig, cefnogol a phrofiadol yn ymroddedig i ddatblygu eich potensial, a hynny mewn lle diogel a chadarn i ddysgu ynddi.

Yn anffodus nid yw'r fersiwn Gymraeg o'r llyfryn yma ar gael i'w lawrlwytho ar hyn o bryd. Ymddeiheuriwn am hyn. Gallwch archebu copiau caled o lyfrynnau yma, neu gellir cael mwy o wybodaeth am gyrsiau cefn gwlad israddedig ar dudalennau'n gwefan, neu ar dudalennau'r adran.