Gwyddor Daear Amgylcheddol

Mae Gwyddor Daear Amgylcheddol yn bwnc cyffrous a llawn her i'w astudio yn y Brifysgol. Gan fod y pwnc mor eang ac mor hyblyg, ac yn cynnwys safbwyntiau geomorffoleg, geocemeg, gwaddodeg, paleohinsoddeg, geoberyglon, mwynyddiaeth, a llawer mwy o blith yr holl Wyddorau Daear, dyma bwnc sy'n rhoi gwybodaeth, dealltwriaeth rhyngddisgyblaethol ac arbenigedd cymwysedig.

Datblygodd cwrs gradd Gwyddor Daear Amgylcheddol o gefndir cryf mewn Geoleg a Daearyddiaeth Ffisegol oherwydd mae gan y ddaear soled ddylanwad mawr wrth reoli systemau eraill y ddaear. Credwn mai dim ond drwy ddeall Gwyddorau'r Ddaear yn eglur y mae'n bosibl deall pethau megis newidiadau yn yr hinsawdd, peryglon naturiol a llygredd byd-eang.

Nid yw hwn ar gael ar hyn o bryd i'w lawr lwytho. Os oes gennych ddiddordeb yn y cyhoeddiad hwn yna edrychwch arno ar lein neu drwy ddefnyddio'r ffurflen isod.

Yn anffodus nid yw'r llyfryn hwn ar gael i'w lwytho i lawr ar hyn o bryd. Ceir mwy o wybodaeth am y cyrsiau israddedig mewn Gwyddor Daear Amgylcheddol ar dudalennau ein gwefan, ac ar dudalennau'r adran.