Astudiaethau Ceffylau yn Aberystwyth
Rydym ni’n darparu cyrsiau ceffylau ers yn hwy na neb arall yn y DU, ac yr ydym wedi sefydlu enw da am ddarparu graddedigion rhagorol ar gyfer ystod lawn o yrfaoedd o fewn y diwydiant. O’r herwydd gallwn warantu addysg o ansawdd uchel ym maes ceffylau ichi, gyda holl fanteision awyrgylch prifysgol traddodiadol.
Mae gan y Sefydliad gyfleusterau gwych, gan gynnwys Canolfan Dysgu Ceffylau fawr, Canolfan Ymchwil Ceffylau arbennig ac iard hunanwasanaeth, pob un ohonynt ag arenâu y tu mewn a’r tu allan, hyd at faint rhyngwladol; cerddwr ceffylau; corlan gron; pont bwyso; stablau a bocsys bwrw ebol gyda theledu cylch-cyfyng; ardaloedd arddangos; labordai ayyb.
Yn anffodus nid yw'r llyfryn diweddaraf eto ar gael i'w wylio ar-lein, na'i lawrlwytho. Gellir archebu copiau caled o lyfrynnau yma. Ceir hefyd mwy o wybodaeth am gyrsiau astudiaethau ceffylau ar dudalennau ein gwefan, neu ar dudalennau'r adran.