Cyhoeddiadau

Cyhoeddiadau Israddedig

Ieithoedd Ewropeaidd yn Aberystwyth

Yn ddiweddar dywedodd y Cyngor Addysg Uwch a Diwydiant:

'Ar gyfer y dyfodol credwn y dylai pawb sydd â'u haddysg uwch yn y dyniaethau ddisgwyl bod yn rhugl mewn o leiaf un iaith dramor, yn ysgrifenedig ac yn llafar', ac yn 1997 ymddangosodd y dyfyniad canlynol yn y THES: 'Rhaid i reolwyr y dyfodol fod yn hollol 'rhyngwladol', yn byw mewn un bydysawd unigryw sydd hefyd yn gyfoethog o amrywiaethau'.

Mae'r dyfyniad hwn yn dangos bod galw mawr ymhlith cyflogwyr am raddedigion mewn ieithoedd Ewropeaidd. Nid yn unig y maent wedi ennill yr un sgiliau â myfyrwyr eraill yn y Dyniaethau (cyflwyniadau ysgrifenedig/llafar; dadansoddi beirniadol; y gallu i ddatblygu dadl â strwythur iddi), ond hefyd mae gan fyfyrwyr Ieithoedd Ewropeaidd fantais enfawr dros raddedigion eraill: maent wedi gorfod byw yn annibynnol mewn o leiaf un wlad dramor ac wedi dysgu'r sgìl gymdeithasol bwysig o gyfathrebu â phobl eraill. Mae cyflogwyr yn meddwl yn fawr o'r annibyniaeth hwn, yn ogystal â'r hyder cymdeithasol a'r gallu ieithyddol. Cafodd cyn-fyfyrwyr waith yn y sectorau cyhoeddus a phreifat, ac aeth rhai yn athrawon, cyfieithwyr, gweinyddwyr, rheolwyr, swyddogion yn y fyddin, newyddiadurwyr a chyfreithwyr.

Yn anffodus nid yw'r llyfryn yma ar gael i'w lawrlwytho yn y Gymraeg ar hyn o bryd, ac fe ymddiheuriwn am hyn.  Ceir mwy o wybodaeth am ein cyrsiau israddedig ar dudalennau ein gwefan.