Cyhoeddiadau
Cyhoeddiadau Israddedig
Daearyddiaeth
Dysgwyd Daearyddiaeth yn Aberystwyth ers diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Heddiw mae tua 400 o fyfyrwyr yn astudio am raddau BA a BSc yn y pwnc. Mae'r sefydliad yn cynnig cyfleusterau astudio o'r radd flaenaf, gan gynnwys sylw personol gan staff sydd wedi astudio Daearyddiaeth ym mhob cwr o'r byd.
Cydnabuwyd safon ein rhaglen ddysgu yn 1995 pan enillodd ein cynlluniau gradd y raddfa Rhagorol yn yr arolwg cenedlaethol Safon ac Asesu Dysgu. Cafodd gwaith ymchwil ein staff ei glodfori a'i gydnabod yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Adlewyrchir hyn yn y raddfa 4A clodwiw a gawsant yn yr Asesiad Ymchwil yn 2001, sy'n golygu bod ein hisraddedigion yn cael eu dysgu gan academwyr sydd yn rhengoedd blaen y byd ymchwil.
Cynigir hefyd gradd gyfan drwy gyfrwng y Gymraeg, sef ein BSc Daearyddiaeth.
Yn anfoddus nid yw'r llyfryn yma ar gael i'w lawrlwytho yn y Gymraeg ar hyn o bryd, ymddiheuriwn am hyn. Ceir mwy o wybodaeth am ein cyrsiau israddedig ar dudalennau ein gwefan, ac ar dudalennau'r adran.