Cyhoeddiadau
Israddedig
Hanes
Mae Aberystwyth yn cynnig y cyfle ichi astudio cyrsiau Hanes mewn Adran uchel ei pharch, mewn lleoliad hyfryd, sydd ag adnoddau llyfrgell ac archif ardderchog. Gallwch astudio Hanes yn Aberystwyth ar sawl ffurf ddiddorol. Bydd llawer yn dewis astudio am radd anrhydedd sengl, sy'n eich galluogi i ddatblygu a dyfnhau eich diddordebau yn y maes.
Bydd eraill yn dewis cyfuno Hanes â phwnc arall mewn cynllun gradd anrhydedd cyfun a all gynnwys Hanes Cymru, Hanes Cymdeithasol ac Economaidd ac Astudiaethau Americanaidd.
Mae'r dewis yn fawr a byddwn yn falch o'ch cynghori os hoffech holi unrhywbeth am Hanes yn Abeystwyth, neu am unrhyw wybodaeth.
Ymddiheuriwn, ond nid yw'r llyfryn yma ar gael ar hyn o bryd. Gellir cael mwy o wybodaeth am gyrsiau israddedig mewn hanes ar ein gwefan, ac ar dudalennau'r adran.