Cyhoeddiadau
Cyhoeddiadau Israddedig
Astudiaethau Gwybodaeth
Mae'r byd gwybodaeth yn un sy'n prysur ehangu. Mae datblygiadau cymdeithasol a thechnolegol y blynyddoedd diweddar wedi trawsnewid Astudiaethau Gwybodaeth a Llyfrgellyddiaeth a Rheoli Gwybodaeth i fod yn bynciau aml-ddisgyblaethol sy'n ymwneud â phob agwedd o gynhyrchu, trefnu, adfer a throsglwyddo gwybodaeth.
Mae gwybodaeth berthnasol a chywir yn awr yn hanfodol i gymdeithas ar raddfa fyd-eang. Cydnabyddir pa mor bwerus a gwerthadwy yw ymhob math o gyd-destun, boed yn anghenion gwybodaeth i unigolion neu gwmnïau rhyngwladol anferth. Heddiw, mae angen gwybodaeth i bob agwedd o fywyd bron, gan wella cyfleoedd gwaith y dyfodol i'r sawl sy'n dewis gweithio yn y maes hwn.
Law yn llaw â'r angen cynyddol am wybodaeth, y mae'r ffrwydriad o wybodaeth sydd ar gael ymhob pwnc dan haul ar nifer helaeth o ffurfiau. Ar drothwy'r unfed ganrif ar hugain mae'r swm o wybodaeth newydd a gynhyrchir yn flynyddol yn syfrdanol. Mae datblygiadau mewn technoleg wedi creu posibiliadau enfawr wrth sicrhau bod mwyfwy o wybodaeth yn awr ar gael i fwy a mwy o bobl. Mae'n awr yn bosibl cael gwybodaeth am adnoddau ledled y byd drwy gronfeydd data rhyngwladol a throsglwyddo peth wmbredd o wybodaeth - o wybodaeth byrhoedlog i'r hyn y mae academwyr ei angen - drwy'r cyfryngau torfol neu'r rhyngrwyd.
Yn anffodus nid yw'r llyfryn hwn ar gael i'w lawrlwytho ar hyn o bryd, ac fe ymddiheuriwn am hyn. Ceir mwy o wybodaeth am y cyrsiau israddedig mewn astudiaethau gwybodaeth ar ein gwefan.