Ffiseg
Mae Ffiseg yn bwnc gwych i'w astudio ac mae'n ddisgyblaeth sy'n dod â manylder a chywirdeb a doniau amrywiol i beth bynnag a wnewch. Yn syml, mae ffiseg yn y bôn yn teithio i bobman, yn bwydo'r holl wyddorau newydd ac yn magu'r dechnoleg fwyaf modern. Bydd y sgiliau ymarferol a'r sgiliau rhifedd, a'r ddawn i ymgyfaddasu y byddwch yn eu dysgu fel ffisegydd, yn fan cychwyn diguro i fyd gwaith.
Yn Aberystwyth rydym yn rhoi pwyslais mawr ar ddysgu ffiseg yn effeithiol. Mae gennym hanes clodwiw a thros 116 mlynedd o brofiad. Mae gan yr Adran grwp bychan o ffisegwyr dawnus ac ymroddgar sy'n golygu y gallwn gynnig dosbarthiadau bychain a system o diwtoriaid personol - a naws anffurfiol a chyfeillgar o ddysgu wrth ochr academwyr galluog.
Mae gan Ffiseg yn Aberystwyth orffennol i genfigennu wrtho a dyfodol penigamp. Gydag enwogion fel E.J.Williams, a ddarganfu ddirywiad p-meson, a Syr Granville Beynon, tad ffiseg ïonosfferig - mae ein hanes yn ddiguro. Mae gan yr Adran staff creadigol sydd ar flaen y gad o ran ffiseg deunyddiau, synwyryddion, pelydrau-X, ymlosgiad, sioc-donnau a'r amgylchedd, heb sôn am y gofod ei hun.
Yn anffodus nid yw'r llyfryn hwn ar gael i'w lawrlwytho ar hyn o bryd. Ceir mwy o wybodaeth am ein cyrsiau israddedig mewn ffiseg ar dudalennau ein gwefan, ac hefyd ar dudalennau'r adran.