Ysgol Rheolaeth a Busnes
Mae dewis y cynllun gradd iawn yn dasg digon dyrys. Mae cymaint o amrywiaeth i'w ystyried mae'n anodd gwybod ble i ddechrau. Pwrpas y cyhoeddiad hwn yw rhoi gwybod i chi am hanfod ein rhaglenni Economeg a'n cymuned dysgu a chymdeithasu.
Yn yr Ysgol Rheolaeth a Busnes yn Aberystwyth rydyn ni'n ystyried bod addysg yn ymwneud â thri pheth: mae'n rhaid i chi ddatblygu'r nodweddion angenrheidiol i fod yn llwyddiannus, mae'n rhaid i chi ymarfer sgiliau rheoli ac mae'n rhaid i chi wybod beth yw cyfarpar a thechnegau busnes. Yn ystod eich gradd cewch ddatblygu eich ochr greadigol, eich brwdfrydedd a'ch diwydrwydd yn ogystal â'r gallu i gydweithio ac arwain. Byddwch yn ymarfer sgiliau dadansoddi, datrys problemau a rhoi'ch addysg ar waith. Cewch eich arfogi â sylfaen gadarn mewn disgyblaethau hanfodol busnes a rheolaeth, cyfrifeg a chyllid, economeg, marchnata, adnoddau dynol a strategaethau.
Yn anffodus nid yw'r llyfryn hwn ar gael i'w lawrlwytho ar hyn o bryd. Ceir gwybodaeth am ein cyrsiau israddedig ar ein gwefan, ac ar dudalennau'r adran.