Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff
Yn y 30 mlynedd diwethaf bu ffrwydriad o ddiddordeb ac ymchwil yn y wyddor sydd y tu cefn i chwaraeon ac ymarfer corff. Cafodd y datblygiadau hyn ddylanwad pellgyrhaeddol, yn ymestyn o'r rhaglenni hyfforddiant llym sydd gan athletwyr olympaidd i'r pegwn arall lle gwelir y llywodraeth yn hybu 'ffordd fywiocach o fyw' er lles iechyd y cyhoedd yn gyffredinol. Ymddangosodd toreth o glybiau, cylchgronau, a nwyddau iechyd ar y farchnad.
Dadansoddiad gwyddonol yw Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff o'r ffordd y mae'r corff dynol yn symud, yn ymarfer ac yn gwneud chwaraeon. Mae'n cyfuno gwybodaeth theoretig mewn biomecaneg, ffisioleg a seicoleg â dealltwriaeth o'r ffordd i gymhwyso'r wybodaeth hon i sefyllfaoedd ymarferol.
Ymddiheuriwn, ond nid yw'r llyfryn ar gael i'w lawrlwytho ar hyn o bryd. Gallwch archebu copi caled yma. Ceir hefyd mwy o wybodaeth am ein cyrsiau israddedig ar ein gwefan, neu ar dudalennau'r adran.