Cymraeg

Gan fod Aberystwyth yn dref mor ganolog ac mor gartrefol a hyfryd, y mae'n denu myfyrwyr o bob rhan o Gymru. Dyna un o ragoriaethau mawr y Brifysgol hon, heb sôn, wrth gwrs, am y bri sydd iddi fel canolfan dysg, a'i hagosrwydd at sefydliadau academaidd eraill, megis y Llyfrgell Genedlaethol a'r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd. Y mae'n lle gwych i fod yn fyfyriwr ynddo. Adran Gymraeg Aberystwyth yw'r hynaf a'r fwyaf o Adrannau Cymraeg Prifysgol Cymru. O'i dechreuad hyd heddiw gwnaeth ei haelodau (yn staff a myfyrwyr) gyfraniad pwysig i fywyd a diwylliant Cymru mewn meysydd fel ysgolheictod, llenyddiaeth, addysg, gwleidyddiaeth a darlledu.

Heb os, y mae'n Adran uchel iawn ei bri. Hi o holl Adrannau Cymraeg y Brifysgol sydd helaethaf ei hadnoddau staff, ac y mae hyn yn fantais bendant o ran rhoi sail o arbenigrwydd i'r dysgu a darparu amrywiaeth o gyrsiau. Ein bwriad yw sicrhau dyfodol ffyniannus i'r Adran drwy wneud yn si'r ei bod yn cynnal safonau academaidd uchel, ac ar yr un pryd yn cyflwyno cyrsiau deniadol a pherthnasol i fyfyrwyr diwedd yr ugeinfed ganrif.

Cliciwch ar y llun isod i bori'r llyfryn cyrsiau israddedig Adran y Gymraeg, neu gallwch archebu copi caled.