Canllawiau ar gyfer llenwi ffurflenni cynnig modiwl newydd / diwygiedig
Atodiad 1: Disgrifiadau Lefel
Wrth bennu natur y gofynion y mae'r modiwl yn gosod ar fyfyrwyr, dylid ystyried y disgrifiadau lefel y cytunwyd eu defnyddio ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth:
Lefel 1
Datblygu agwedd drwyadl tuag at sicrhau sylfaen eang o wybodaeth; defnyddio amrediad o fedrau arbenigol; gwerthuso gwybodaeth gan ei ddefnyddio i gynllunio a datblygu strategaethau ymchwiliol, ac i benderfynu ar atebion i nifer o broblemau annisgwyl; gweithredu o fewn cyd-destunau gwahanol a phenodol er mwyn sicrhau'r canlyniadau a ddynodwyd.
Lefel 2
Creu syniadau trwy ddadansoddi cysyniadau ar lefel haniaethol, gan ddangos meistrolaeth ar medrau arbenigol a'r gallu i lunio atebion i broblemau amlwg a rhai haniaethol; dadansoddi a gwerthuso gwybodaeth, datblygu'r gallu i farnu'n ddoeth ar draws amrediad eang o swyddogaethau; derbyn cyfrifoldeb am bennu canlyniadau personol a/neu grwp.
Lefel 3
Adolygu'n feirniadol, cadarnhau ac ehangu corff o wybodaeth systematig a rhesymegol, gan ddefnyddio medrau arbenigol ar draws maes astudio penodol; gwerthuso medrau newydd yn feirniadol a gwneud llawer o benderfyniadau doeth mewn nifer o sefyllfaoedd gwahanol; derbyn cyfrifoldeb am bennu a sicrhau canlyniadau personol a/neu grwp.
Lefel M
Dangos meistrolaeth ar wybodaeth a medrau cymhleth ac arbenigol, gan ddefnyddio medrau uwch i gyflawni gwaith ymchwil, neu weithgaredd technegol a phroffesiynol uwch, gan dderbyn cyfrifoldeb am yr holl benderfyniadau perthynol gan gynnwys arolygu a, mewn amgylchiadau priodol, chynnig arweiniad i eraill.