Canllawiau ar gyfer llenwi ffurflenni cynnig modiwl newydd / diwygiedig
Atodiad 2: Canlyniadau'r Dysgu
- Dylid disgrifio canlyniad yn nhermau'r hyn y dylai myfyrwyr allu eu cyflawni ar ôl iddynt gwblhau'r modiwl.
- Gallai'r rhestr ganlyniadau wahaniaethu rhwng 'penodol', wedi ei asesu'n uniongyrchol, canlyniadau a chanlyniadau 'cyffredinol' sy'n ehangach o ran natur ac na ellir eu hasesu'n uniongyrchol trwy ddulliau asesu mewn unrhyw un modiwl.
- Dylid disgrifio'r canlyniad yn y fath eiriau fel y gellir dychmygu myfyriwr yn gallu llwyddo ynddo ar raddfa o 'yn gyfan gwbl', yna 'yn rhannol' hyd at 'dim o gwbl'.
- Dylai 'r gofynion ar fyfyrwyr, fel y'u dangosir gan y canlyniadau dysgu arfaethedig, fod yn addas i lefel y modiwl. (gweler disgrifiadau lefel y sefydliad ynglyn â'r hyn a olygir gan 'lefel 1', ayb.).
- Dylai'r canlyniadau fod yn asesadwy ar draws yr ystod o fyfyrwyr y cynlluniwyd y modiwl ar eu cyfer.
- Fel arfer, byddai casgliad o ganlyniadau ar gyfer modiwl yn cynnwys sawl math o gyraeddiadau myfyrwyr (gwybodaeth, dealltwriaeth, medrau)
- Ni ddisgwylir y dynodir mwy nag oddeutu 8 canlyniad ar gyfer modiwl penodol.
Geirfa'r Canlyniadau
Nid oes geirfa benodol i ddisgrifio canlyniadau dysgu. Serch hynny, cynghorir chi i gofio'r canlynol.
- Dylai berfau a ddefnyddir i ddisgrifio canlyniadau fod yn weithredol gan gyfleu, os yw'r canlyniad am gael ei asesu, y gallu i fesur pob canlyniad trwy asesiad ffurfiannol neu gyfansymiol. Er enghraifft, os disgwylir i fyfyrwyr "ddeall" cysyniad, efallai mai gwell fyddai nodi y dylai myfyrwyr allu "diffinio" nodweddion y cysyniad, "disgrifio" ei werth wrth egluro ffenomenon, "dangos" sut y rhoddir y cysyniad ar waith, a "gwerthuso" ei arwyddocâd. Gellid gweld y canlyniadau hyn fel arwyddion mesuradwy o'r dealltwriaeth y disgwyliem i fyfyrwyr ei meistroli.
- Yn yr esiampl hon, mae dealltwriaeth yn cynnwys yr enghreifftiau penodol iawn o nodi, disgrifio, a dangos. Serch hynny, ceir sawl lefel o ddiffinio cyfryngol. Gall geirfa o'r fath gynnwys "nodwch yn feirniadol", "dangoswch allu". "bod yn gallu cymhwyso/trafod" a "defnyddiwch amrediad". Yn union yr un fath, gall y rhain gwrdd â'r gofynion ar gyfer mesur. Yn amlwg, bydd hyn yn amrywio'n fawr rhwng ac o fewn disgyblaethau.
Mae'r tabl isod yn cynnwys rhagor o'r berfau llai mesuradwy a'r termau amgen a ellid eu cysylltu'n fwy agos â dulliau asesu. Yn amlwg, maent yn bwnc-penodol ac mae rhai ohonynt yn drosglwyddadwy. Nid rhestr ddiffiniol yw hon.
| Berf Gyffredinol | Berf Fesuradwy |
|---|---|
| Deall | Dangos dealltwriaeth o |
| Bod yn ymwybodol o | Disgrifio, Dangos, Trafod |
| Dirnad | Dadansoddi, Gwerthuso |
| Cymhathu | Esbonio, Syntheseiddio |
| Sefydlu | Dangos, Nodi, Rhestru, Datgan, Cyfiawnhau |
| Gwerthfawrogi | Dadansoddi, Gwerthuso, Cymharu |
| Gwneud yn wybyddus | Cyfathrebu, Esbonio |
| Cyflawni | Perfformio |
| Gwybod | Diffinio, Gwahaniaethu rhwng da a drwg, Gwahaniaethu rhwng amrywiol bethau, Gwerthuso |