Canllawiau ar gyfer llenwi ffurflenni cynnig modiwl newydd / diwygiedig

Y broses

  1. Cydnabyddir yr angen am fodiwl newydd neu ddiwygiedig gan yr Adran.
  2. Dewisir cydlynydd i'r modiwl.
  3. Gan ddefnyddio ffurflen cymeradwyo modiwl P.C.A. a'r canllawiau hyn, bydd cydlynydd y modiwl yn paratoi drafft mewn ymgynghoriad â chydlynydd y cynllun(iau) gradd perthnasol.
  4. Fel mater o arfer da, dylid cyflwyno'r drafft i'w gymeradwyo i Bwyllgor Dysgu ac Addysgu'r Adran.
  5. Llofnodir fersiwn cymeradwyedig y cynnig modiwl gan Bennaeth yr Adran, ac fe'i cyflwynir i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Gwybodaeth a Swyddog yr Amserlen i'w ystyried, ac ar ôl i'r llofnodion gael ei casglu i gyd, bydd yn cael ei anfon at Ysgrifennydd y Gyfadran briodol.
  6. Yn unol â threfniadau mewnol y Gyfadran, mae'n bosibl yr anfonir y cynnig modiwl at asesydd unigol ar gyfer sylwadaeth cyn ei ddosbarthu ym mhapurau'r Gyfadran.
  7. Bydd y Gyfadran yn ystyried y cynnig, ynghyd â sylwadau unrhyw asesydd, a bydd yn penderfynu os yw am
    • gymeradwyo'r cynnig fel y mae wedi ei gyflwynoneu
    • gyfeirio'r cynnig i'w gymeradwyo gan y Deon, yn amodol ar newidiadau penodedig a fydd wedi cael eu gwneudneu
    • gyfeirio'r cynnig yn ôl i'r Adran.
  8. Adnoddau: Wrth gyflwyno'r modiwl i'w gymeradwyo, cymerir bod yr adran sy'n gyfrifol am y dysgu eisoes yn meddu ar yr adnoddau angenrheidiol - staff, cyfleusterau, ayb. Mae'r Cyfadrannau yn gyfrifol am gymeradwyo'r modiwlau ar sail academaidd yn unig. Bydd penderfyniadau ymglyn ag unrhyw adnoddau ychwanegol a fydd o bosibl eu hangen yn disgyn ar y Pwyllgor Cynllunio ac Adnoddau.
  9. Bydd y cynnig modiwl, fel y'i cymeradwyir gan y Gyfadran, yn sylfaen i'r holl ddogfennau perthnasol gan gynnwys cronfa ddata modiwlau P.C.A. a llawlyfrau cynlluniau gradd.

D.S. Y dyddiad cau olaf ar gyfer cynigion modiwlau Rhan Un a Rhan Dau newydd yw cyfarfod mis Mawrth y Gyfadran (mewn pryd ar gyfer cofrestru dros dro) yn y sesiwn cyn yr un lle bwriedir cyflwyno'r modiwl. Mewn amgylchiadau eithriadol yn unig, fel y rhai sy'n codi o ganlyniad i newidiadau staff, y bydd y Gyfadran yn ystyried cynigion modiwl a gyflwynir ar ôl y dyddiad hynny.