Canllawiau ar gyfer llenwi ffurflenni cynnig modiwl newydd / diwygiedig
A: Gwybodaeth Gefndir
Mae'r adran ragarweiniol hon yn darparu'r wybodaeth gefndir ar gyfer y modiwl. Yn gyffredinol, mae'r cwestiynau yn rhai gweinyddol ac hunaneglurhaol.
C5 Cydgysylltydd y Modiwl
Lle cynigir mai rhywun nad sy'n aelod o Gyfadran P.C.A. a fydd yn gydgysylltydd y modiwl ac/neu yn ymgymryd â rhan sylweddol o'r dysgu, dylid cyflwyno CV byr y person(au) o dan sylw i Ysgrifennydd y Gyfadran ynghyd â'r ffurflen cymeradwyo modiwl.
C9 A oes gan y cynnig oblygiadau i strwythur unrhyw gynllun astudio?
Gall newidiadau sylweddol i graidd cynllun neu newid mewn lefel modiwl arwain at anghydbwysedd mewn semestrau.
C12-17
cwestiynau sy'n bwysig ar gyfer cronfa ddata'r modiwl ac ar gyfer monitro ansawdd trwy gadw golwg fanwl ar bortffolio'r modiwl. Dylid cymryd gofal i osgoi gorgyffwrdd mewn adrannau eraill. Gellir gwneud chwiliad am deitlau a/neu gynnwys sy'n union yr un fath neu'n debyg trwy ddefnyddio cronfa ddata'r modiwl. Lle defnyddir yr adran hon i ddynodi elfennau ychwanegol, cofiwch ddangos y pethau sy'n debyg ac annhebyg yn lefel y cynnwys yn ogystal ag yn nhestun y cynnwys. A yw'r modiwl a gynigir yn datblygu pynciau a gyflwynir mewn modiwl arall, yn darparu gwybodaeth graidd ar gyfer eraill neu'n cydymffurfio ar yr un lefel?