Canllawiau ar gyfer llenwi ffurflenni cynnig modiwl newydd / diwygiedig

B: Rhesymeg a chynnwys y modiwl

Dylai hwn fod mor wrthrychol â phosibl. Gall y cynigydd fod â syniad clir iawn o werth a chanlyniadau arfaethedig modiwl ond gall hyn fod yn llai amlwg i sylwedydd o'r tu allan i'r ddisgyblaeth (fel y digwydd gyda Chynrychiolwyr Pwnc y Brifysgol weithiau).

C1 Rhesymeg Academaidd y Cynnig:

Dylai hwn gynnig rhywfaint o wybodaeth gefndir ar gyfer y Gyfadran, e.e. y bwriad i lenwi bwlch ym mhortffolio modiwlau a/neu medrau; targed i wella gallu myfyrwyr i gael swyddi, neu i ddatblygu eu gallu i ymdrin â materion cymhleth gan ddefnyddio amrywiaeth o medrau academaidd/technegol. Gellir cynnwys rhai amcanion penodol e.e. yn ymwneud â'r disgwyliad y bydd y rhaglen arfaethedig yn diwallu anghenion achredu proffesiynol, neu y bydd y modiwl yn gymorth i gwrdd â gofynion diwygiedig; y bydd myfyrwyr yn meddu ar fwy o fedrau TGCh diweddar neu y bydd ganddynt fedrau TGCH ehangach y gellir eu diweddaru'n rheolaidd yn y gwaith neu drwy astudiaeth bellach.

C2 Disgrifiad Cryno:

dylai hwn fod yn grynodeb byr o gynnwys y modiwl (dim mwy na 150 o eiriau), ac wedi ei anelu at y myfyrwyr.

C3 Cynnwys:

Amlinelliad o'r cynnwys a fydd o dan sylw, fel arfer ar ffurf rhestr dros dro o bynciau seminar/darlithiau.