Canllawiau ar gyfer llenwi ffurflenni cynnig modiwl newydd / diwygiedig
C: Canlyniadau Dysgu a Dulliau Asesu
C2 A yw'r canlyniadau dysgu a lefel y modiwl yn cydymffurfio â disgrifiad generig y lefel?
Dylid pennu'r lefel arfaethedig (0, 1, 2, 3, M, ayb.) yn unol â disgrifiad lefel P.C.A. a gytunwyd; gweler atodiad 1
C3 Rhestrwch y Canlyniadau Dysgu
Defnyddiwch y fformat safonol 'Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru', a'i ddilyn gan restr rifyddol o ganlyniadau dysgu. Nid oes rhaid i'r rhestr ddilyn trefn pwysigrwydd o angenrheidrwydd, mae'n ddefnyddiol bod y canlyniadau wedi eu rhifo i hwyluso ymateb i'r cwestiwn ar sut y maent wedi eu cysylltu â dulliau asesu. Fel arfer dynodir oddeutu 3 - 8 o ganlyniadau dysgu ar gyfer modiwl 10 credyd.
C4 Nodwch hyd yr arholiad, manylion y gwaith cwrs, a chanran y pwysiant ar gyfer pob dull, ac eglurwch sut y mae pob canlyniad dysgu wedi'i gysylltu â'r dulliau asesu.
Mae asesiad yn cyfeirio at yr holl ddulliau y mesurir cynnydd a pherfformiad myfyrwyr trwy gydol y modiwl. Yr un mor berthnasol yw asesiad ffurfiannol ag asesiad cyfansymiol. Defnyddiwch y fformat tabl a ddarperir.
Esiampl
| Dull asesu | Canran wedi ei addasu | Canlyniad(au) Dysgu | |
|---|---|---|---|
| Asesiad Semester: |
Arholiad ysgrifenedig 2 awr Traethawd Gwaith cwrs o 2000 o eiriau Cyflwyniad Llafar |
50% 30% 20% |
1,2,3 & 5 1,2,3 & 5 1,3 & 4 |
| Asesiad Atodol: | Arholiad 2 awr yn unig | 100% | 1,2,3 & 5 |
Asesiad Semester:
yn cyfeirio at waith cwrs cyfansymiol trwy gydol y semester ac at arholiadau ffurfiol ar ddiwedd semester
- Dylid nodi'r dull(iau) asesu a ddefnyddir, h.y. arholiad dibaratoad, (traethawd, ateb byr, amlddewisiadau ayb.) a gwaith cwrs (llafar, portffolio, perfformiad, traethawd, ayb.).
- Dylid cynnwys pob elfen o asesiad cyfansymiol fel cyfraniad canran i'r asesiad cyfan. Mae hyn yn hollbwysig wrth fonitro'r berthynas asesu pwysiant credydau a llwyth gwaith y myfyriwr. Os yw'r canlyniad dysgu yn disgrifio dull dysgu myfyriwr-ganolog gyda dull dysgu grwp, ond bod yr asesiad yn ei hanfod yn seiliedig ar arholiadau dibaratoad, bydd elfennau anghymarus yn cael eu canfod
Asesiad Atodol:
yn cyfeirio at y cyfle i ail-sefyll; gwnewch yn siwr bod hyn yn cyfeirio at ba bryd y gellir ail-sefyll, a pha fath o asesu a olygir. Efallai mai ailadrodd arholiadau semester a wneir (o ran dull yn hytrach na chynnwys), neu gall fod yn waith cwrs sy'n seiliedig ar gymysgedd o waith cwrs ac arholiadau.
Nid oes angen cyfeirio yma at ganlyniad a restrwyd mewn ymateb i'r cwestiwn blaenorol ond na fydd yn cael ei asesu'n ffurfiol.