Canllawiau ar gyfer llenwi ffurflenni cynnig modiwl newydd / diwygiedig
F: Gwybodaeth Gyffredinol
C1 Llyfryddiaeth:
Dylai'r rhestr hon fod yn ddigon hir - fel arfer i fyny hyd at 10 - i ddangos yr amrywiaeth o ffynonellau allweddol, ond nid oes angen iddi fod yn gyflawn. Rhowch fanylion llawn pob ffynhonnell - awdur, dyddiad, teitl, cyhoeddwr. Gan y bydd ei chynnwys yn ymddangos ar gronfa ddata'r modiwl, efallai bydd myfyrwyr yn gweld hyn fel rhestr ddarllen. Dylai Adrannau ddefnyddio sianelau cydnabyddedig eraill i hysbysu'r Gwasanaethau Gwybodaeth am y cyfeirlyfrau sydd eu hangen ar gyfer y modiwl, am ofynion eu statws benthyca ayb.
C2.2 Gofynion Llyfrgell a TG:
Dylai gofynion Llyfrgell a TG gynnwys rhyw syniad o ba mor aml y defnyddir TG, e.e. a oes angen labordy cyfrifiaduron bob wythnos, yn awr ac yn y man ayb? Pa feddalwedd sy'n angenrheidiol, pa gyfleusterau printio? Dylid trafod gofynion Llyfrgell a TG â'r Llyfrgellydd Cyswllt Academaidd priodol yn gynnar yng nghyfnod llunio'r cynigion. Ni fydd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Gwybodaeth yn arwyddo'r ffurflen hyd nes ac oni bai fod trafodaethau o'r fath wedi eu cwblhau yn foddhaol (Gweler http://www.inf.aber.ac.uk/subject/staff.asp#ALL: neu http://www.inf.aber.ac.uk/subject/cymraeg/staff.asp#lca)
C4 Nodwch amcan o'r galw/nifer y disgwylir eu denu:
Fel arfer penderfynir hyn gan strategaeth dysgu a thargedau cysylltiedig yr Adrannau.
C8 Unrhyw Wybodaeth Bellach:
Nid yw'n ofynnol cynnwys unrhyw wybodaeth. Efallai y byddai'n werth nodi os yw'r modiwl yn ganlyniad i sylwadau gan Arholwyr Allanol neu asiantaethau eraill, neu os oes 'marchnad' ar gyfer y modiwl wedi ei nodi mewn unrhyw fodd. Gellir cynnwys awgrymiadau am ddatrys unrhyw broblemau ynglyn ag adnoddau neu drefniadau ynghylch darpariaethau, os yw'n debygol bod y rhain yn amlwg i gydlynydd y modiwl a/neu Bennaeth yr Adran, ond nid i adolygydd Adrannol allanol.