Nodiadau Trosglwyddo i Ddeoniaid y Cyfadrannau
Atodiad Un - Is-Ddeon y Gyfadran: Dyletswyddau a Chyfrifoldebau
- Ymgymryd â'r swyddogaethau a ddisgrifir yng Nghyfansoddiad y Gyfadran, sef cynorthwyo a, phan fo angen, gweithredu ar ran y Deon ar faterion yn ymwneud â pholisi academaidd a pholisïau'r Gyfadran.
- Cadeirio cyfarfodydd y Gyfadran (yn amodol ar y Rheolau Sefydlog) a'i his-gyfarfodydd pan fo'r Deon yn absennol. Yn fwy penodol, gall fod angen i'r Is-Ddeoniaid gadeirio Byrddau Arholi'r Cyfadrannau.
- Goruchwylio swyddogaeth y Gyfadran o ran sicrhau ansawdd, fel y'i disgrifir yn y Llyfr Ansawdd i Staff.
- Cyfrannu'n rheolaidd i'r gwaith o arolygu gweithdrefnau mewn adrannau cyfansoddol e.e. ymatebion i adroddiadau arholwyr allanol, ac i'r gwaith o adolygu dogfennau a gyflwynir i'w hystyried gan y Gyfadran e.e. cynigion am fodiwlau a chynlluniau astudio newydd.
- O bryd i'w gilydd, ar gais y Deon neu'r Gyfadran, adolygu agweddau ar bolisïau a gweithdrefnau a chyflwyno cynigion i'r Gyfadran eu hystyried.
- Bod yn aelod o rai o Bwyllgorau P.C.A. yn rhinwedd ei swydd e.e.Pwyllgor Materion Academaidd, Pwyllgor Rheolau a Rheoliadau.
- Bod ar gael i fod yn aelod o bwyllgorau ad hoc a gaiff eu cynnull i ystyried achosion myfyrwyr unigol e.e. honiadau o ymddygiad annheg, neu faterion cyffredinol yn ymwneud â gwaith y Gyfadran.
alm 27 Gorffennaf 2005.