Nodiadau Trosglwyddo i Ddeoniaid y Cyfadrannau
1.0 Cyflwyniad
Caiff y Deoniaid eu hethol gan eu Cyfadrannau a byddant yn cadeirio cyfarfodydd y Cyfadrannau ac unrhyw is-bwyllgorau oni fyddant yn dirprwyo'r dyletswyddau hyn i eraill. Hwy sy'n gyfrifol am sicrhau y caiff y gwaith a amlinellir yn Rheolau Sefydlog eu Cyfadran ei gyflawni. Maent hefyd yn cynrychioli safbwyntiau eu Cyfadrannau yn y Senedd, ar y Pwyllgor Materion Academaidd ac ar bwyllgorau eraill y Brifysgol y maent yn aelodau ohonynt, a byddant yn adrodd yn ôl i'w Cyfadran ar gyfarfodydd pwyllgorau'r Brifysgol. Cânt eu cefnogi yn y gwaith hwn gan Ysgrifennydd eu Cyfadran.
1.2 Cyd-swyddogaethau
Bydd y Deoniaid hefyd yn cwrdd yn rheolaidd i drafod materion yn ymwneud ag ansawdd a safonau addysgu, gyda'r nod o hybu cysondeb rhwng y tair Cyfadran a datblygu mentrau i'w cyflwyno gerbron y Cyfadrannau neu Bwyllgorau'r Brifysgol. Mae ganddynt hefyd gyd-ddyletswyddau penodol megis beirniadu'r gystadleuaeth ysgoloriaeth ymchwil flynyddol. Cânt eu cefnogi yn y gwaith hwn gan staff gweinyddol ac ysgrifenyddol Swyddfa'r Deoniaid. Nodir prif gyfrifoldebau'r Deoniaid yn fwy manwl isod.