Nodiadau Trosglwyddo i Ddeoniaid y Cyfadrannau
2.0 Sicrhau Ansawdd A Safonau
Mae prif gyfrifoldebau'r Deoniaid yn ymwneud â sicrhau ansawdd a safonau addysgu. Caiff y cyfrifoldebau hyn eu cyflawni mewn amryw o ffyrdd: drwy gadeirio Byrddau Arholi'r Cyfadrannau, sy'n cadarnhau canlyniadau gradd; drwy gadeirio cyfarfodydd y Cyfadrannau lle caiff modiwlau a chynlluniau astudio newydd eu trafod; a thrwy aelodaeth y Deoniaid o'r Pwyllgor Materion Academaidd, sy'n arolygu safonau academaidd y Brifysgol ac yn adolygu'r gwaith addysgu o fewn adrannau. Drwy gyfrwng y gweithgareddau hyn, a nifer o weithgareddau eraill a ddisgrifir isod, mae'r Deoniaid yn chwarae rhan ganolog yn y gwaith o ddatblygu, gweithredu a monitro'r polisi academaidd, ac yn sicrhau bod polisïau a gweithdrefnau academaidd P.C.A. yn cyd-fynd yn union â'r fframwaith a ddatblygwyd gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd.