Nodiadau Trosglwyddo i Ddeoniaid y Cyfadrannau

3.0  Aelodaeth O Bwyllgorau

3.1  Senedd

Daw'r Deoniaid yn aelodau llawn o'r Senedd yn ystod cyfnod eu Deoniaeth. Byddant yn rhoi gwybod i Ysgrifennydd eu Cyfadran pa eitemau y dylid eu gosod o dan Adran A agenda'r Senedd a byddant yn eu cyflwyno'n ffurfiol i'r Senedd. Cânt yn aml eu hethol i gynrychioli'r Senedd ar bwyllgorau eraill y mae'r Senedd am i safbwyntiau'r Cyfadrannau gael eu cynrychioli'n briodol ac yn gyfrifol arnynt.

3.2  Aelodaeth o Bwyllgorau yn Rhinwedd eu Swydd

Yn rhinwedd eu swydd, mae'r Deoniaid yn aelodau o'r prif bwyllgorau Prifysgol a ganlyn:

  • Pwyllgor Materion Academaidd
  • Bwrdd Graddau Ymchwil
  • Pwyllgor Rheolau a Rheoliadau
  • Pwyllgor Cynnydd Academaidd
  • Pwyllgor Cadeiriau Personol
  • Pwyllgor Ymchwil
  • Pwyllgor Gwasanaethau Gwybodaeth
  • Pwyllgor Staffio (dim ond i ystyried Uwch-Ddarlithyddiaethau)
  • Pwyllgor Datblygu Staff

3.3  Pwyllgor Materion Academaidd

Mae'r Deoniaid yn aelodau o'r Pwyllgor Materion Academaidd, sy'n cwrdd ddwywaith y tymor. Pwrpas y pwyllgor yw rhoi cyngor a gwneud argymhellion i'r Senedd ar y polisi academaidd cyffredinol. Mae'r Pwyllgor yn gyfrifol am gynnal a monitro safonau ac ansawdd academaidd. Mae hyn yn golygu:

  • Cynnal Adolygiadau Adrannol
  • Ystyried adroddiadau Arholwyr Allanol
  • Cymeradwyo cynlluniau astudio newydd neu rai diwygiedig ar lefel gradd, diploma a thystysgrif, yn amodol ar gymeradwyaeth Prifysgol Cymru lle bo hynny'n briodol
  • Trafod materion academaidd rhyng-adrannol
  • Gosod dyddiadau tymhorau
  • Monitro gweithdrefnau Llên-ladrad ac Ymddygiad Annheg
  • Trafod trefniadau arholiad
  • Trafod materion a gyfeiriwyd at y Pwyllgor gan y Senedd neu gan Fwrdd Academaidd y Brifysgol Ffederal

3.4  Bwrdd Graddau Ymchwil

Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y Bwrdd Graddau Ymchwil ym mis Mehefin 2005 a bydd yn cwrdd bedair gwaith y sesiwn. Mae'n gweithredu fel bwrdd arholi graddau ymchwil ac mae'n goruchwylio'r holl faterion sy'n ymwneud â graddau ymchwil uwchraddedig, gan adrodd yn ôl i'r Pwyllgor Materion Academaidd ar faterion sicrhau ansawdd. Bydd y Cyfadrannau'n cyflwyno adroddiadau i'r Bwrdd ar faterion megis monitro cynnydd myfyrwyr uwchraddedig.

3.5  Pwyllgor Rheolau a Rheoliadau

Prif bwyllgor arall y mae'r Deoniaid yn aelodau ohono yw'r Pwyllgor Rheolau a Rheoliadau. Pwrpas y Pwyllgor hwn yw rhoi cyngor a gwneud argymhellion i'r Senedd ar y canlynol:

  • Rheolau a Rheoliadau P.C.A.
  • Dyfarniadau ariannol i fyfyrwyr, gan gynnwys Ysgoloriaethau Mynediad a Gwobrau
  • Materion cyfansoddiadol yn ymwneud ag Urdd y Myfyrwyr
  • Materion a gyfeiriwyd at y Pwyllgor gan y Senedd neu'r Bwrdd Academaidd

3.6  Aelodaeth o Bwyllgorau Ad Hoc

Mae'r Deoniaid hefyd yn aelodau o, neu'n cadeirio, amryw o bwyllgorau neu weithgorau ad hoc a sefydlir gan y Pwyllgor Materion Academaidd neu gan un o bwyllgorau eraill y Brifysgol. Er enghraifft, bydd o leiaf un Deon yn mynychu cyfarfodydd Grwp Gweithredu'r Strategaeth Dysgu ac Addysgu a Bwrdd Astudiaethau Prifysgol Haf Gorllewin Cymru. Mae'n bosib y caiff y Deoniaid eu gwahodd hefyd i fod yn rhan o rai o brif bwyllgorau'r Brifysgol nad ydynt yn aelodau ohonynt yn rhinwedd eu swydd, megis y Cyngor, y Pwyllgor Cynllunio ac Adnoddau a'r Pwyllgor Staffio.