Nodiadau Trosglwyddo i Ddeoniaid y Cyfadrannau

4.0  Gwaith Y Cyfadrannau

Bydd y Cyfadrannau'n cwrdd bum gwaith y sesiwn, tua wythnos cyn i'r Pwyllgor Materion Academaidd gwrdd, fel y gallant roi gwybod i'r Pwyllgor am unrhyw faterion sydd angen eu trafod. Cyflwynir cofnodion cyfarfodydd y Cyfadrannau i gyfarfod nesaf y Senedd. Nodir prif gyfrifoldebau pob Cyfadran yn eu Rheolau Sefydlog. Ymhlith y prif faterion a drafodir yn eu cyfarfodydd mae:

4.1  Cymeradwyo Modiwlau

Rhaid i bob modiwl newydd gael ei gymeradwyo gan y Gyfadran berthnasol, a bydd hefyd angen cymeradwyo unrhyw newidiadau sylweddol i fodiwlau cyfredol. Mae ffurflen cymeradwyo modiwl newydd a chanllawiau ar sut i lenwi'r ffurflen ar gael ar y We. Mae gan bob Cyfadran ei threfn ei hun i ystyried cynigion am fodiwlau cyn y cânt eu rhoi gerbron y Gyfadran i'w cymeradwyo.

4.2  Cymeradwyo Cynlluniau

Yn unol â'r trefniadau newydd o 2005-06 ymlaen, gofynnir i'r Deoniaid ystyried ar y cyd yr holl gynigion am gynlluniau astudio newydd neu rai diwygiedig er mwyn penderfynu pa fath o gymeradwyaeth y maent eu hangen. Yna anfonir y cynigion at y Gyfadran berthnasol ac efallai y bydd angen iddynt gael eu trafod gan banel cymeradwyo llawn neu un mewnol cyn cael eu cymeradwyo'n derfynol gan y Pwyllgor Materion Academaidd. Mae ffurflenni cymeradwyo cynlluniau a ffurflenni eraill ar gael ar y We. Bydd y Deoniaid yn cadeirio gweithgareddau cadarnhau pan fo angen (fel arfer pan fo'r cynllun newydd yn tywys y ddarpariaeth bresennol i gyfeiriad cwbl newydd yn hytrach nag yn ailgyflwyno modiwlau cyfredol).

4.3  Cofnodion y Byrddau Adrannol

Bydd pob Cyfadran yn derbyn copïau o gofnodion y byrddau adrannol a phwyllgorau ymgynghorol staff/myfyrwyr a byddant yn trafod unrhyw faterion sy'n codi yn sgil y cofnodion hyn.

4.4  Sicrhau Ansawdd

Bydd y Cyfadrannau'n trafod ystod o faterion yn ymwneud ô sicrhau ansawdd addysgu, a gallant gyflwyno sylwadau a chynigion i'r Pwyllgor Materion Academaidd neu ddatblygu trefniadau arferol a pholisïau o fewn y Gyfadran lle bo hynny'n briodol, er mwyn hybu cysondeb rhwng y Cyfadrannau. Bydd y Cyfadrannau hefyd yn gwirio ymatebion adrannau i holiadur sicrhau ansawdd y Brifysgol ac yn adrodd yn ôl i'r Pwyllgor Materion Academaidd ar unrhyw faterion eithriadol.

4.5  Pwyllgorau Monitro Ymchwil y Cyfadrannau

Ddwywaith y sesiwn, bydd y Deoniaid yn cadeirio cyfarfordydd lle caiff cynnydd myfyrwyr ymchwil ei drafod. Ym mis Mehefin/Gorffennaf penderfynir a ddylid caniatáu i fyfyrwyr symud ymlaen i'w blwyddyn nesaf o astudio a chaiff unrhyw anawsterau eu nodi a'u trafod. Weithiau bydd y Deon yn ysgrifennu at fyfyrwyr ar ran y Gyfadran i fynegi pryder ac/neu i gynnig cymorth. Mae hyn yn rhan allweddol o ddulliau'r Brifysgol o sicrhau bod myfyrwyr ymchwil yn cwblhau eu traethodau ymchwil ar amser.

4.6  Gweithredu

Mae gan y Deoniaid yr hawl i weithredu'n uniongyrchol ar faterion yn ymwneud â'r Gyfadran sydd angen sylw brys, a lle byddai aros tan gyfarfod nesaf y Gyfadran yn achosi oedi sylweddol. Mewn achosion o'r fath, bydd y Deon yn rhoi gwybod i gyfarfod nesaf y Gyfadran pa weithredu a fu.