Nodiadau Trosglwyddo i Ddeoniaid y Cyfadrannau

5.0  Cyfarfodydd y Deoniaid

Bydd y Deoniaid yn cwrdd yn rheolaidd â'u Cynorthwywyr Gweinyddol, ac yn aml â'r Ysgrifennydd Academaidd ac/neu Ysgrifenyddion y Cyfadrannau. Bydd rhai o'u cyfarfodydd yn anffurfiol ac ar ffurf trafodaethau ag aelodau allweddol o staff y Brifysgol, megis y Cofrestrydd, y Dirprwy Is-Gangellorion, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr, y Cyfarwyddwr Datblygu Staff a chynrychiolwyr Undeb y Myfyrwyr. Bydd cyfarfodydd eraill, mwy ffurfiol, yn trafod:

  • Cymeradwyo enwebiadau ar gyfer Arholwyr Allanol
  • Cymeradwyo estyniadau i raddau uwch
  • Materion a gyfeiriwyd at y Deoniaid gan y Pwyllgor Materion Academaidd

Bydd y Deoniaid yn adrodd yn ôl yn ffurfiol ar y materion hyn i'r Cyfadrannau neu'r Pwyllgor Materion Academaidd fel y bo'n briodol.