Nodiadau Trosglwyddo i Ddeoniaid y Cyfadrannau

6.0  Cyfrifoldeb (tudalen un)

6.1  Ymestyn Yr Amser a Ganiateir i Gwblhau Graddau Uwch

Mae'r Brifysgol Ffederal wedi dirprwyo'r hawl i P.C.A. gymeradwyo ymestyn yr amser a ganiateir i gwblhau graddau uwch. Mae rheolau sefydlog Prifysgol Cymru yn nodi mai cyfrifoldeb adrannau yw anfon at y Deoniaid ffurflen wedi'i llofnodi gan yr arolygwr a chan bennaeth yr adran, a chyflwyno achos cryf a rhesymegol, gyda tystiolaeth feddygol briodol neu dystiolaeth arall, i ymestyn yr amser a ganiateir. Bydd y Deoniaid yn ystyried pob cais ar y cyd ac yn hysbysu'r Cyfadrannau a Phrifysgol Cymru o unrhyw estyniadau. Bydd Prifysgol Cymru o bryd i'w gilydd yn gofyn am gael gweld copïau o'r gwaith papur perthnasol ar estyniadau er mwyn gwirio bod y gweithdrefnau priodol yn cael eu dilyn.

6.2  Arholwyr Allanol

Bydd y Deoniaid yn cymeradwyo enwebiadau ar gyfer arholwyr allanol newydd, a gyflwynir drwy gyfrwng ffurflen sydd ar gael gan Swyddfa'r Deoniaid, sy'n gweinyddu apwyntiadau, taliadau ac adroddiadau arholwyr allanol ar gynlluniau a ddysgir drwy gyrsiau. (Caiff enwebiadau ar gyfer arholwyr allanol graddau ymchwil eu hystyried gan y Cyfarwyddwr Astudiaethau Uwchraddedig a'u hanfon ymlaen at y Deoniaid iddynt hwythau eu hystyried, ond cânt eu gweinyddu gan y Swyddfa Academaidd.) Bydd y Deoniaid yn gwirio bod y darpar arholwyr yn cwrdd â gofynion Canllawiau'r Brifysgol. Wedi i'r enwebiadau gael eu cymeradwyo, anfonir cynnig swyddogol a chopi o'r canllawiau ar swyddogaethau arholwyr allanol i'r arholwyr. Cânt eu gwahodd i fynychu diwrnod briffio. Cyflwynir adroddiadau arholwyr allanol i Swyddfa'r Deoniaid a bydd adrannau yn anfon copi o'u hymatebion i'r Deoniaid fel y gall y Cyfadrannau eu hystyried. Yna bydd y Deoniaid yn cyflwyno'r prif faterion a drafodwyd gan y Gyfadran i'r Pwyllgor Materion Academaidd.

Mae'r Deoniaid hefyd yn gweithio'n agos ag Arholwyr Allanol y Cyfadrannau sy'n mynychu Byrddau Arholi'r Cyfadrannau er mwyn goruchwylio'r broses o ddyfarnu graddau israddedigion, tystysgrifau a diplomâu ac, o 2004-05 ymlaen, canlyniadau graddau Meistr.

6.3  Cystadleuaeth Ysgoloriaeth Ymchwil Uwchraddedig Aberystwyth

Ers 1995 bu'r Deoniaid yn cytuno ar 12 gwobr i fyfyrwyr ymchwil doethurol (4 i bob Cyfadran) mewn cyfarfod a gynhelir tua mis Ebrill bob blwyddyn. Bydd myfyrwyr yn cyflwyno ceisiadau erbyn dechrau mis Mawrth ac yna bydd adrannau yn creu rhestr flaenoriaeth o'u hymgeiswyr. Yna bydd pob Deon yn ystyried ceisiadau ei Gyfadran, gan ymgynghori â hybwr ymchwil y Gyfadran, yr Is-Ddeon ac/neu â chydweithwyr perthnasol eraill cyn y caiff rhestrau terfynol y Cyfadrannau eu cymeradwyo mewn cyfarfod rhwng y tri Deon a'r Cyfarwyddwr Astudiaethau Uwchraddedig, a all gynnig cyngor pellach os oes angen.

6.4  Byrddau Arholi Ac Apeliadau

Mae'r Deoniaid yn cadeirio Byrddau Arholi'r Cyfadrannau i fyfyrwyr Rhan 1, myfyrwyr Rhan 2 nad ydynt ar eu blwyddyn olaf, myfyrwyr Rhan 2 sydd ar eu blwyddyn olaf a'r byrddau arholi ar gyfer canlyniadau graddau uwch a ddysgir drwy gyrsiau. (Gweler Rheoliad Academaidd ar Gynnydd Academaidd, sy'n amgaeëdig.) Ar lefel Rhan 1, bydd Byrddau Arholi'r Cyfadrannau yn penderfynu a gaiff myfyrwyr symud ymlaen i Ran 2 ac yn cadarnhau a fydd myfyrwyr yn cael ailsefyll modiwlau y bu iddynt eu methu a phryd y cânt wneud hynny. Ym Myrddau myfyrwyr Rhan 2 nad ydynt ar eu blwyddyn olaf gwneir penderfyniadau ynghylch symud ymlaen i'r flwyddyn nesaf o astudio ac a ganiateir ailsefyll modiwlau a fethwyd a phryd y ceir gwneud hynny. Yn y Bwrdd Arholi i fyfyrwyr sydd ar eu blwyddyn olaf bydd y Gyfadran yn cymeradwyo dosbarth y graddau ac yn penderfynu os a phryd y ceir ailsefyll. Yn achos uwch raddau a ddysgir drwy gyrsiau, caiff arwyddion ailsefyll, materion ynghylch symud ymlaen, graddau â rhagoriaeth a dyfarniadau terfynol eu cadarnhau.

6.4.1  Pwyllgor Achosion Arbennig

Cyn pob cyfres o Fyrddau Arholi'r Cyfadrannau cynhelir cyfarfod o'r Pwyllgor Achosion Arbennig, sy'n cynnwys y Deoniaid, Ysgrifenyddion y Cyfadrannau a staff y Swyddfa Academaidd, i gytuno lle bo'n bosibl ar ddulliau o gydweithredu ar faterion cyffredinol ac i drafod tystiolaeth feddygol a thystiolaeth arall o amgylchiadau arbennig a gyflwynwyd gan adrannau ar ran eu myfyrwyr. Mae'r cyfarfod yn fforwm i'r Deoniaid drafod sut i ymdrin ag anawsterau gyda rhai myfyrwyr ac i hybu cysondeb yn null Byrddau Arholi'r Cyfadrannau o weithredu.

6.4.2 Apeliadau yn erbyn Canlyniadau Arholiad

Gan eu bod yn cadeirio Byrddau Arholi'r Cyfadrannau, rhaid i'r Deoniaid gymeradwyo unrhyw newidiadau i farciau a gyflwynwyd gan y Byrddau neu benderfyniadau a wnaed ganddynt ynghylch caniatáu symud ymlaen i'r flwyddyn nesaf o astudio

  • Bydd myfyrwyr sydd yn apelio yn erbyn arwydd ailsefyll ‘N' (sy'n eu rhwystro rhag ailsefyll eto) a ddyfarnwyd gan fwrdd arholi yn apelio'n uniongyrchol i'r Deoniaid
  • Rhaid i adrannau sydd eisiau argymhell newidiadau i farciau neu arwyddion ailsefyll (o ganlyniad i gamgymeriadau wrth gyfrif marciau, derbyn tystiolaeth feddygol yn hwyr ayyb) gyflwyno ffurflenni newid marciau i'r Deoniaid eu cymeradwyo
  • Mae'r Deoniaid (neu'r sawl a enwebir ganddynt) yn aelodau o'r Pwyllgor Cynnydd Academaidd, sy'n cyfarfod yn fuan wedi'r byrddau arholi i ystyried apeliadau yn erbyn penderfyniadau i rwystro myfyrwyr rhag symud ymlaen i'w blwyddyn nesaf o astudio
  • Pan fo myfyrwyr eisiau cadarnhau canlyniad eu gradd, bydd y Swyddfa Academaidd yn casglu sylwadau o'r adran(nau) perthnasol ac yn gofyn i'r Deon naill ai gymeradwyo'r penderfyniad gwreiddiol neu unrhyw newid a gynigir gan yr adran(nau). Os penderfynir glynu wrth y canlyniad gwreiddiol gall y myfyriwr apelio drwy Brifysgol Cymru (gweler y Trefniadau Cadarnhau Cymwysterau ac Apeliadau ym Mhrifysgol Cymru)