Nodiadau Trosglwyddo i Ddeoniaid y Cyfadrannau
7.0 Cyfrifoldeb (tudalen day)
Yn ystod wythnos gyntaf y tymor, fel rhan o drefniadau cyflwyno glasfyfyrwyr, bydd y Deoniaid yn annerch myfyrwyr israddedig newydd. Mae hyn yn gyfle iddynt sôn am strwythur cynlluniau gradd a sut y mae cynghori'n gweithio, amlinellu'r trefniadau ar gyfer newid cofrestriad, a disgrifio swyddogaeth Swyddfa'r Deoniaid. Bydd y Deoniaid hefyd yn disgrifio'r gofynion ar gyfer cynnydd academaidd boddhaol (mynychu dosbarthiadau, cyflwyno gwaith cwrs yn brydlon a chwrdd â holl ofynion eraill eu cynlluniau, fel y'u disgrifir yn llawlyfrau'r adrannau). Yn olaf, gall y Deoniaid roi cyngor ar beth i'w wneud os aiff pethau o le, a thrafod y gweithdrefnau i roi gwybod am fyfyrwyr anfoddhaol a gweithredu'n eu herbyn.
7.1.2 Myfyrwyr Uwchraddedig Newydd
Bydd y Deoniaid hefyd yn rhoi anerchiad byr i fyfyrwyr uwchraddedig newydd fel rhan o broses gyflwyno'r myfyrwyr uwchraddedig, gan ddisgrifio disgwyliadau'r Gyfadran a dull gweithredu Pwyllgorau Monitro Ymchwil y Cyfadrannau.
7.1.3 Cyngor Cyffredinol ar Gofrestru
Caiff myfyrwyr sydd eisiau cyngor am eu cynlluniau astudio neu eu cynnydd academaidd eu cyfeirio at y Deon os na ellir ateb eu hymholiadau o fewn eu hadran.
7.1.4 Newid Cofrestriad
Caiff ffurflenni Newid Cofrestriad Modiwlau i Israddedigion eu cydlofnodi gan y Deoniaid o dan yr amgylchiadau canlynol:
- Newid Modiwl: ar ôl 4 wythnos (Rhan 1), ar ôl 3 wythnos (Rhan 2)
- Newid Gradd: ar ôl 4 wythnos o'r semester
- Newid Cyfadran: o ddechrau'r semester
7.1.5 Perfformiad mewn Arholiadau
Gall Byrddau Arholi'r Cyfadrannau dynnu sylw at y myfyrwyr hynny y mae eu perfformiad yn achosi pryder difrifol ac y bu cyfradd eu presenoldeb hefyd yn wael, a gallant wahodd adrannau i hysbysu eu Deon eu bod yn fyfyrwyr anfoddhaol fel y gellir cynnig cymorth iddynt neu weithredu cyn diwedd y sesiwn.
7.1.6 Cynnydd Anfoddhaol
Yn ôl y trefniadau a gymeradwywyd gan y Senedd i ymdrin â myfyrwyr y mae eu cynnydd yn anfoddhaol, cyfrifoldeb y Deon yw penderfynu beth i'w wneud (gweler Rheoliad Academaidd ar Gynnydd Academaidd, sy'n amgaeëdig). Y weithdrefn arferol yw i adrannau gyflwyno Ffurflen Myfyriwr Anfoddhaol i'r Deon. Yna bydd y Deon yn cyfweld y myfyriwr (gydag ysgrifennydd yn cymryd nodiadau), yn rhoi gwybod i'r adran ac yn ysgrifennu at y myfyriwr i roi gwybod pa amodau (os unrhyw amodau) y bydd yn rhaid iddo'u cwrdd. Gall yr amodau hyn amrywio o orfod mynychu pob dosbarth i osod ‘cyfnod prawf'. Os bydd y Deon yn penderfynu diarddel y myfyriwr, bydd yn rhoi gwybod i'r Cofrestrydd a bydd Swyddfa'r Deoniaid yn sicrhau y cymerir yr holl gamau angenrheidiol. Pan fo gan fyfyrwyr broblemau meddygol, ariannol neu broblemau eraill bydd y Deoniaid yn eu cyfeirio at yr aelodau o staff a fydd yn gallu rhoi'r cyngor priodol iddynt.
7.1.7 Tynnu'n ôl dros dro
Rhaid i fyfyrwyr sy'n ystyried tynnu'n ôl dros dro fynd i weld Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr a Phennaeth eu Hadran a gofyn iddynt lofnodi'r ffurflenni priodol cyn eu cyflwyno i'r Deon, a fydd fel arfer yn cymeradwyo'r cais i dynnu'n âl ond a allai benderfynu hefyd ei fod am gyfweld y myfyriwr cyn llofnodi'r ffurflen tynnu'n âl.
7.2 Seremonïau Graddio
Bydd y Deoniaid yn cyflwyno darpar raddedigion eu Cyfadrannau yn yr wyth Cynulliad Graddio a gynhelir ym mis Gorffennaf bob blwyddyn. (Cyhoeddir fformiwla Cymraeg ar gyfer pob grwp.) Caiff dyddiadau'r seremonïau eu cyhoeddi'n flynyddol yn y rhestr dyddiadau a bydd y Swyddfa Academaidd yn cysylltu â'r Deoniaid yn ystod y flwyddyn ynghylch eu rhan yn y seremonïau.
7.3 Paneli Penodi
Mae'r Deoniaid yn aml yn rhan o, a weithiau'n cadeirio, paneli penodi staff academaidd ac aelodau eraill o staff. Caiff y rhain eu trefnu gan y Swyddfa Bersonél. Mae gan y Deoniaid swyddogaethau eraill o ran staffio: y gystadleuaeth Uwch-Ddarlithyddiaeth flynyddol, dyrchafiadau i ddarllenyddiaethau a chadeiriau personol, a phwyllgorau penaethiaeth adrannau.
7.3.1 Uwch-DdarlithyddiaethauMae'r Deoniaid yn aelodau o'r Pwyllgor Staffio ar gyfer y gystadleuaeth flynyddol a byddant yn cyflwyno ymgeiswyr o'u Cyfadrannau a hefyd yn rhoi adborth i ymgeiswyr aflwyddiannus. Mae dehongli a gwerthuso ceisiadau am Uwch-Ddarlithyddiaethau yn dasg sylweddol i'r Deoniaid wrth iddynt baratoi am y ddau gyfarfod arbennig o'r Pwyllgor Staffio yn ystod Tymor y Pasg pan benderfynir ynghylch dyrchafiadau.
7.3.2 Darllenyddiaethau
Er mai'r Pwyllgor Staffio sy'n ystyried ceisiadau am ddarllenyddiaethau, bydd y Deoniaid yn cydweithio â'r Dirprwy Is-Gangellorion a'r pennaeth adran perthnasol wrth enwebu canolwyr allanol.
7.3.3 Cadeiriau Personol
Mae'r Deoniaid yn aelodau o'r Pwyllgor Cadeiriau Personol.
7.3.4 Swyddi Pennaeth Adran
Gall y Deoniaid gynrychioli'r Senedd ar bwyllgorau dethol ar gyfer swyddi pennaeth adran.