Canllawiau ar Gyfer Adolygu Cyfnodol 2011-12

Diben Adolygiadau Cyfnodol yw rhoi arolwg i’r Brifysgol o holl weithgaredd dysgu ac addysgu yr adrannau. Dyma brif ddull y Brifysgol o wirio pa mor effeithiol a chadarn yw gweithdrefnau adran i reoli ansawdd a chynnal a chyfoethogi ansawdd profiad y myfyriwr. Yn unol â Chod Ymarfer yr ASA, un o swyddogaethau pwysig yr Adolygiad Cyfnodol yw ‘gwirio bod nodau rhaglenni a’u canlyniadau dysgu arfaethedig yn parhau i fod yn ddilys a pherthnasol’. Proses ddatblygol yw adolygu cyfnodol, a bydd pob adran yn cael ei hadolygu unwaith bob chwe mlynedd. Nid yw Adolygu Cyfnodol yn cynnwys arsylwi ar ddysgu ond mae’n cynnwys trafodaeth ar arfer yr adran o ran staff yn arsylwi ar waith dysgu ei gilydd ac o ran y prosesau adrannol ar gyfer Adolygu Perfformiad a Datblygiad.

1.   O leiaf dair wythnos cyn dyddiad yr Adolygiad, gofynnir i’r Adran ddarparu

     1.  datganiad ar sut mae’r Adran yn ymdrin â Strategaeth Dysgu ac Addysgu a Strategaeth Cyflogadwyedd y Brifysgol (500 gair).
          Efallai y bydd Adrannau am gynnwys eu strategaeth Dysgu ac Addysgu a’u Datganiad Cyflogadwyedd eu hunain.

     2. datganiad o’r camau a gymerwyd i fynd i’r afael â’r materion a grybwyllwyd yn yr Adolygiad Adrannol diwethaf a manylion ynglŷn
         â’r ffordd y mae’r Adran wedi asesu effeithiolrwydd y camau hynny (hyd at 1,000 o eiriau);

    3. datganiad yn crynhoi gweithgareddau dysgu ac addysgu yr Adran (uchafswm o 1,500 o eiriau), yn cynnwys y materion isod:

  •  pwyso a mesur pa mor effeithiol yw’r Adran wrth ddarparu cyfleoedd dysgu priodol i’w myfyrwyr, ac wrth ddatblygu’r cyfleoedd dysgu hyn ymhellach;
  • pwyso a mesur pa mor addas yw’r adnoddau dysgu (staff, lle, cyfleusterau) sy’n cefnogi dysgu’r myfyrwyr;
  •  datganiad ar ddulliau’r Adran o gefnogi a monitro cynnydd myfyrwyr drwy ei rhaglenni;
  •  dulliau’r adran o ystyried barn myfyrwyr, staff, cyn-fyfyrwyr a’r sawl sydd â diddordeb yn allanol wrth ddatblygu rhaglenni;
  •  gwerthusiad o’r mesurau a gymerir i gynnal a chyfoethogi ansawdd a safonau darpariaeth ddysgu ac addysgu yr Adran;
  •  datganiad ar sut y defnyddir technoleg i wella’r profiad dysgu;
  •  datganiad ar ddulliau’r Adran o reoli llwyth gwaith ei staff a sut y mae’n defnyddio data llwyth gwaith staff yn fewnol i gynllunio ei gweithgareddau dysgu ac addysgu a strwythuro’r cwricwlwm.

   4.  Adroddiadau hunanwerthuso (uchafswm o 1,000 o eiriau) ar bob rhaglen neu grŵp o raglenni y mae’r Adran yn gyfrifol
        amdani/amdanynt. Bydd yr adroddiadau yn cynnwys:

  •  rhestr o’r holl raglenni trwy gwrs y mae pob adroddiad yn eu cwmpasu;
  •  datganiad ar nodau cyffredinol y rhaglen(ni) a’u perthynas â nodau yr Adran a’r Brifysgol;
  •  datganiad ar ganlyniadau dysgu arfaethedig y rhaglen(ni) a’r cyswllt rhyngddynt a datganiadau Meincnodau Pwnc perthnasol yr ASA, y fframweithiau cymwysterau addysg uwch (FHEQ) ac unrhyw ofynion gan gyrff proffesiynol perthnasol;
  •  datganiad yn egluro sut mae cynnwys a dulliau asesu y rhaglen(ni) yn cefnogi’r canlyniadau dysgu arfaethedig ac yn bodloni gofynion lefel academaidd y dyfarniad y mae’r rhaglen yn arwain tuag ato;
  •  datganiad ar brif nodweddion y data am gynnydd myfyrwyr a data’r dyfarniadau yn ystod y cyfnod rhwng adolygiadau;
  •  crynodeb o’r casgliadau a gafwyd yn sgil monitro blynyddol ar y rhaglen(ni) ers yr adolygiad cyfnodol diwethaf, gan gynnwys newidiadau a wnaed i’r rhaglen(ni) ac argymhellion allweddol yr arholwyr allanol a’r camau a gymerwyd i ymateb iddynt;
  •  pan fo’r rhaglenni yn cael eu cyflwyno dan drefniadau masnachfraint neu drefniadau cydweithredol, dylai’r Adran roi gwerthusiad o ba mor effeithiol yw’r trefniadau rhwng y sefydliadau partner ac amlinellu unrhyw weithdrefnau monitro penodol sydd ar waith.

   5.  I leihau’r baich ar adrannau ac adolygwyr, dim ond pan fo gwybodaeth ychwanegol ar gael yn rhwydd y dylai Adran ei darparu. I
        gadw’r broses mor hylaw â phosibl, byddai’n ddefnyddiol pe gallai adrannau roi rhestrau i’r adolygwyr o unrhyw wybodaeth
        ychwanegol y credant y gallai fod o ddefnydd ac y gellid ei darparu ar gais. 

ALM/mes
Mehefin 2011