Canllawiau ar Gyfer Adolygu Cyfnodol 2011-12
2. Safbwyntiau Allanol
- Dylai’r Adran atodi adroddiadau arholwyr allanol ar ei rhaglenni dros y ddwy flynedd ddiwethaf i’w hadroddiadau hunanwerthuso, ynghyd â chofnod o drafodaethau’r Adran ar yr adroddiadau yn ei Phwyllgor Dysgu ac Addysgu (neu’r hyn sy’n cyfateb iddo) ac ym Mwrdd yr Adran, ac unrhyw gamau a gymerwyd yn eu sgil. Dylai’r Adran roi gwybod i’w harholwyr allanol am yr Adolygiad Adrannol a’u hannog i ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Academaidd ynglŷn â materion y maent yn teimlo y dylid cyfeirio’n arbennig atynt.
- Dylai’r Adran atodi unrhyw adroddiadau achredu diweddar (lle bônt yn berthnasol) i’w hadroddiadau hunanwerthuso ac egluro ei phrosesau ar gyfer sicrhau mewnbwn allanol i’w gweithdrefnau datblygu ac adolygu
- Bydd y Brifysgol yn penodi o leiaf un Asesydd Allanol yn aelod o’r Panel Adolygu, o restr o bobl a enwebwyd gan yr Adran, sydd â phrofiad o reoli gweithgareddau dysgu ac addysgu ac sydd ag arbenigedd addas yn y maes. Os nad yw’r adrannau yn darparu enwebeion addas o fewn terfyn amser rhesymol, bydd y Dirprwy Is-Ganghellor yn enwebu Asesydd Allanol. Telir ffi o £385 i’r Asesydd Allanol yn 2011-12.
2.1 Safbwyntiau’r Myfyrwyr
- Mae safbwyntiau myfyrwyr yn rhan sylfaenol o’r broses adolygu. Dylid atodi i’r adroddiadau hunanwerthuso grynodeb o ganlyniadau’r holiaduron myfyrwyr a baratowyd ar gyfer prosesau adolygu’r modiwlau a’r cynlluniau astudio cyffredinol, ynghyd ag eglurhad o sut mae’r Adran yn eu defnyddio ac yn adrodd yn ôl i’w myfyrwyr.
- Dylid hefyd atodi copïau o gofnodion y Pwyllgorau Ymgynghorol Staff a Myfyrwyr am y ddwy flynedd ddiwethaf.
- Bydd staff y Gofrestrfa yn gofyn i Urdd y Myfyrwyr gyflwyno ei safbwyntiau ar brosesau cefnogi myfyrwyr yr Adran, gan ganolbwyntio ar y materion a nodwyd gan Gyngor Cynrychiolwyr y Cyrsiau.
2.2. Pwyllgorau Adrannol
1. Dylid egluro strwythur Pwyllgorau yr Adran.
2. Gofynnir i’r Adran ddarparu copïau o gofnodion y Byrddau Adrannol a’r Pwyllgorau Dysgu ac Addysgu dros y ddwy flynedd
ddiwethaf, gan ganolbwyntio’n benodol ar gyfarfodydd sy’n ymwneud â datblygu ac adolygu modiwlau a rhaglenni. Dylid
cynnwys canlyniadau’r Ymarferiadau Monitro Rhaglenni blynyddol gyda’r deunydd yma.
2.3. Gwybodaeth i Fyfyrwyr
Gofynnir i’r Adran ddarparu samplau o’i Llawlyfrau Myfyrwyr.
Bydd aelodau o Banel yr Adolygiad yn edrych ar y we i weld Manylebau Rhaglenni’r holl gynlluniau astudio a ddysgir drwy gwrs (israddedig ac uwchraddedig).
2.4. Data
Bydd yr Adran yn darparu crynodeb o faich dysgu pob aelod o’r staff academaidd o ran oriau cyswllt ar gyfer yr isod:
darlithoedd
seminarau/sesiynau tiwtorial
sesiynau ymarferol
arolygu uwchraddedigion
arall (e.e. teithiau maes).
Bydd y Gofrestrfa yn darparu data ynghylch:
nifer y ceisiadau israddedig a nifer y myfyrwyr a dderbynnir
cyfartaledd sgoriau Safon Uwch
cymarebau staff-myfyrwyr
cost fesul myfyriwr
nifer y myfyrwyr sy’n gyfwerth ag amser llawn
canlyniadau arolygon bodlonrwydd myfyrwyr y flwyddyn flaenorol.
DS Gellir cyflwyno Llawlyfrau Myfyrwyr, cofnodion pwyllgorau ac ati yn electronig.
ALM/mes
Mehefin 2011