Canllawiau ar Gyfer Adolygu Cyfnodol 2011-12
3. Panel Ymweld
Bydd y Pwyllgor Materion Academaidd yn sefydlu Panel Ymweld o blith ei aelodau (a fydd yn cynnwys y Deon Astudiaethau Uwchraddedig os oes nifer sylweddol o fyfyrwyr uwchraddedig yn yr Adran) a gadeirir gan un o’r Dirprwy Is-Gangellorion. Bydd yr asesydd/aseswyr allanol yn aelod(au) o’r Panel.
Dyma fydd trefn yr Ymweliad fel arfer:
Wythnos cyn yr Ymweliad
Bydd aelodau’r Panel yn cyfnewid, trwy ohebiaeth, adroddiadau ysgrifenedig cychwynnol ar y rhaglen a materion
perthnasol cyn yr ymweliad i gynorthwyo i lunio’r agenda.
Diwrnod 1 yr Ymweliad (Sampl o Raglen – dylid cadarnhau’r manylion terfynol gyda Phennaeth yr Adran sy’n cael ei hadolygu)
9.00 a.m. Cyfarfod preifat i grynhoi trafodaethau cynharach (30 munud)
9.30 a.m. Cyfarfod gyda Phennaeth yr Adran (tua 45 munud)
10.15 a.m. Cyfarfod preifat (30 munud)
10.45 a.m. Cyfarfod gyda’r Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu ac Arweinwyr y Rhaglenni Israddedig (75 munud)
12.00 canol dydd Cyfarfod preifat
12.15 p.m. Cyfarfod gydag Arweinwyr y Rhaglenni Uwchraddedig a’r Cydlynydd Uwchraddedig (30 munud)
12.45 p.m. Cinio/Cyfarfod preifat/Taith o amgylch y cyfleusterau?
2.15 p.m. Cyfarfod gyda Grŵp Myfyrwyr 1 (30 munud)
2.45 p.m. Cyfarfod preifat (15 munud)
3.00 p.m. Cyfarfod gyda Grŵp Myfyrwyr 2 (30 munud)
3.30 p.m. Cyfarfod preifat (15 munud)
3.45 p.m. Cyfarfod gyda’r Myfyrwyr (Grŵp 3) (30 munud)
4.15 p.m. Cyfarfod preifat (30 munud)
4.45 p.m. Adroddiad ar Gynnydd i Bennaeth yr Adran a’r Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu, Arweinwyr y Rhaglenni
Israddedig ac Uwchraddedig a’r Cydlynydd Uwchraddedig (30 munud)
Diwrnod 2 yr Ymweliad
9.15 a.m. Cyfarfod gyda’r staff na welwyd hwy eisoes (60 munud)
10.15 a.m. Cyfarfod preifat (60 munud)
11.15 a.m. Adborth i Bennaeth yr Adran a’r Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu
Pan fo gan adran ddarpariaeth Dysgu o Bell neilltuol, gellir cynnal cyfarfodydd ar wahân gyda’r Israddedigion a/neu Uwchraddedigion perthnasol, lle y telir costau teithio rhesymol myfyrwyr gan y Gofrestrfa.
ALM/mes
Mehefin 2011