Canallawiau ar Gyfer Cyfnodol 2011-12
4. Gwaith Dilynol
Bydd y Panel Ymweld yn llunio Adroddiad o fewn 2 fis i’r Adolygiad y dylid ei ddosbarthu’n eang ymhlith staff a myfyrwyr yr Adran. Bydd yr Adran yn paratoi ymateb i argymhellion yr Adroddiad. Bydd yr Adroddiad ac ymateb yr Adran yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Materion Academaidd fel y gellir eu hystyried yn ffurfiol cyn eu cyflwyno i’r Senedd. Bydd y Pwyllgor Materion Academaidd yn cytuno ar amserlen addas ar gyfer gwaith dilynol ar unrhyw argymhellion penodol a wnaed yn yr Adroddiad a bydd yn ceisio nodi arfer da y gellid ei ledaenu i adrannau eraill.
Pan fo ffaeleddau difrifol yn cael eu canfod yn sgil Adolygiad Adrannol, bydd gan y Pwyllgor Materion Academaidd y grym i sefydlu corff adolygu allanol i gynnal asesiad annibynnol o’r Adran ac i wneud gwaith dilynol ar argymhellion penodol.
ALM/mes
Mehefin 2011