Cod Ymarfer ar Tiwtoriaid Personol

   TIWTORIAID PERSONOL:  DATGANIAD POLISI

1.       Y tiwtor personol fydd y cyswllt cyntaf rhwng myfyriwr ag Adran; dylai fod ar gael ar adegau rhesymol i ymgynghori â myfyriwr, a lle y bo angen dylai gyfeirio myfyriwr yn ei flaen/blaen i gael cyngor arbenigol.

2.       Anogir Adrannau i ddynodi tiwtoriaid personol i fyfyrwyr cyn dechrau’r sesiwn fel y gall tiwtoriaid a myfyrwyr gysylltu â’i gilydd yn fuan yn ystod y cyfnod cyflwyno. Os nad yw hynny’n bosibl dylai Adrannau wneud trefniadau tiwtorial dros dro i sicrhau bod myfyrwyr yn cael arweiniad a chymorth.

3.       Dylai myfyrwyr gael y cyfle i gwrdd â’u tiwtor personol o leiaf deirgwaith yn ystod y flwyddyn gyntaf, ac o leiaf ddwywaith y flwyddyn ar ôl hynny. Gall rhai o’r cyfarfodydd fod yn gyfarfodydd grŵp.

4.       I gael parhad, dylai myfyriwr gael yr un tiwtor personol, os yw’n bosibl, drwy gydol ei yrfa/gyrfa yn y Brifysgol.

5.       Os yw naill ai’r myfyriwr neu’r aelod o ‘r staff yn gofyn am gael newid tiwtor dylai fod gan Adrannau drefn benodol i ymateb i hynny.

6.       Wrth bennu tiwtoriaid personol dylai Adrannau fod yn sensitif i anghenion grwpiau penodol, e.e. myfyrwyr Cymraeg eu hiaith, myfyrwyr tramor, myfyrwyr hŷn.

7.       Dylai fod gan bob myfyriwr israddedig diwtor personol yn ei brif Adran (myfyrwyr Anrhydedd Cyfun, yn y ddwy Adran). Dylai’r un trefniant fod ar gyfer uwchraddedigion hefyd.

8.       Disgwylir i holl aelodau’r staff academaidd ar wahân i’r Dirprwy Is-Gangellorion, y Deoniaid, a Phenaethiaid Adran, fod yn diwtoriaid personol.

9.       1 . Rhaid i diwtoriaid wneud yn sicr bod eu myfyrwyr yn gwybod sut i gael gafael arnynt pan fo angen.

   2.  Dylai Adrannau sicrhau bod myfyriwr yn gallu gweld aelod arall o’r staff os yw’r tiwtor personol yn absennol yn ystod oriau swyddfa.

10.     Dylid trefnu dosbarthiadau tiwtorial ar gyfer myfyrwyr Dysgu o Bell, myfyrwyr Addysg Barhaus, a myfyrwyr rhan-amser.

11.     Dylai Adrannau:

1.  gadw rhestr ddiweddar o diwtoriaid personol a’r myfyrwyr y maent yn eu tiwtora (yn eu cofnodion eu hunain ac ar ASTRA);

2.  rhoi tiwtor personol newydd i fyfyrwyr pan fo angen hynny (e.e. oherwydd newid i’r cynllun astudio, staff yn symud, neu fyfyriwr yn dod yn ôl wedi cyfnod o’r Brifysgol).

12.     Dylai pob Adran enwebu un person i fod yn gyfrifol am drefnu’r system tiwtoriaid personol.

13.     Bydd y Pwyllgor Materion Academaidd yn cadw golwg ar y system tiwtoriaid personol.

14.     Mae’r Brifysgol wedi cymeradwyo Pecyn Cymorth Personol www.aber.ac.uk/cy/toolkit/ er mwyn gwneud yn glir i staff beth yw cyfrifoldebau tiwtoriaid a myfyrwyr fel ei gilydd yn hyn o beth.