Diogelu Arferion Ymchwil Da
1.0 Egwyddorion Arferion Ymchwil Da
I raddau helaeth, mae egwyddorion arferion gwyddonol da yn hollol amlwg. Maent yn cynnwys hanfodion megis cynnal safonau proffesiynol uchel, dogfennu canlyniadau ymchwil yn ofalus, cwestiynu a rhesymu eich canlyniadau eich hunan, a phriodoli'r cyfraniad a wneir gan aelodau o'ch grwp a'ch cydweithwyr ymchwil yn onest. Y mae'n hynod o bwysig yng nghyd-destun priodoliaeth i lwyr gydnabod a rhoi clod i ganlyniadau a gynhyrchwyd gan fyfyrwyr uwchraddedig ac, mewn rhai achosion gan fyfyrwyr israddedig. Dylai ymchwilwyr ar ymweliad hefyd dderbyn cydnabyddiaeth briodol a chlod am eu cyfraniad hwy. Y mae angen safonau llym yn nhermau arweinyddiaeth grwpiau ymchwil, mentora ymchwilwyr ifainc a storio data ymchwil cynradd yn ddiogel. Yn ogystal, rhoddir blaenoriaeth uchel i faterion iechyd a diogelwch, a rheolaeth amgylcheddol. Nid oes angen dweud bod camymddygiad, er enghraifft, yng nghyswllt llên-ladrad, camddefnyddio cyllid ymchwil a diffyg gonestrwydd wrth gyflwyno cynlluniau ymchwil hefyd yn feysydd lle mae'r Sefydliad yn disgwyl y safonau uchaf o ymddygiad ac o berfformiad gan ei staff. Y mae'r adran isod ar arweinyddiaeth a threfniadaeth yn egluro'n fanwl sut y dosbarthir yr wybodaeth yn y ddogfen bolisi o fewn y Sefydliad trwy safleoedd ar y we, cysylltiadau ar y we, a chodau ymarfer a gyhoeddwyd.