Diogelu Arferion Ymchwil Da

2.0  Safeguarding Diogelu Arferion Ymchwil Da

2.1  Gweithredu Egwyddorion o fewn y Sefydliad

Fel arfer bydd dogfennau Polisïau Newydd ar faterion academaidd sy'n ymwneud ag ymchwil yn cael eu gyrru ymlaen trwy'r Cyfadrannau, ac yna ymlaen i Bwyllgor Materion Academaidd neu Bwyllgor Ymchwil y Brifysgol cyn cael eu cymeradwyo gan y Senedd, sef y corff deddfwriaethol Sefydliadol ar faterion academaidd a materion cysylltiedig. Ar yr adeg hyn felly y mae'r polisi fel y'i gosodir i lawr yn ymrwymo pob aelod o'r staff academaidd, ac fel y bo'n briodol, bydd yn ffurfio elfen yn y cynlluniau hyfforddi ar gyfer aelodau newydd a pharhaol o'r staff academaidd, yn ogystal ag i fyfyrwyr ymchwil a phersonél ymchwil eraill. Bydd cyfrifoldeb am weithredu'r trefniadau yn gorffwys gyda Phenaethiaid Adrannau a'r rhai sy'n gyfrifol am gyfeiriad yr ymchwil, sef arweinwyr grwpiau ymchwil, cydlynwyr ymchwil uwchraddedig, Cyfarwyddwyr Ymchwil yr Adrannau, Hyrwyddwyr Ymchwil y Cyfadrannau, Cyfarwyddwr Astudiaethau Uwchraddedig ac arolygwyr prosiectau uwchraddedig ac israddedig. Y mae'n ddyletswydd ar bob aelod o'r staff academaidd i ymgyfarwyddo â'r trefniadau sefydliadol, ac i gymryd rhan mewn rhaglenni datblygu staff a rhaglenni hyfforddi eraill. Y drefn arferol ar gyfer dosbarthu dogfennau polisi yw trwy'r rhwydwaith mewnol neu trwy godau ymarfer ar gopi caled. Tynnir sylw at ddogfennau trwy weithgareddau cyflwyno ar gyfer aelodau newydd o'r staff academaidd, staff ymchwil ar gytundeb newydd, a myfyrwyr uwchraddedig newydd. Yn ogystal, dosbarthir gwybodaeth trwy bwyllgorau ymchwil adrannol, a thrwy godau ymarfer i uwchraddedigion.

2.2  Arweinyddiaeth a Threfniadaeth

Penaethiaid Adrannau sy'n ysgwyddo'r prif gyfrifoldeb dros greu'r amgylchedd ymchwil lle gellir cyflawni arferion ymchwil da, fel yr amlinellir hwy gan y Sefydliad. Gellir cyflawni'r cyfrifoldeb hwn trwy broses reolaethol lle mae'r Cyfarwyddwyr Ymchwil yn chwarae rhan allweddol trwy gysylltu â chyfundrefn gyfansoddiadol eu hadrannau i fonitro arferion ymchwil. Gall y cyswllt hwn olygu nifer o brosesau, megis trefnu diwrnodau 'gweinyddu grantiau' i hwyluso ceisiadau am grantiau, trefnu mentorau ar gyfer ceiswyr grantiau ac aseswyr ar gyfer monitro myfyrwyr ymchwil. Fel mater o egwyddor, dewisir Penaethiaid Adrannau, Cyfarwyddwyr Ymchwil Adrannol, Cydlynwyr Uwchraddedig Adrannol, Deoniaid Cyfadrannau ac arweinwyr grwpiau ymchwil ar gyfer eu swyddi ar sail eu profiad a'u sgiliau arweinyddiaeth er mwyn sicrhau arferion gwyddonol da, ymhlith pethau eraill.