Diogelu Arferion Ymchwil Da

3.0  Addysg Ymchwilwyr Ifainc - PhD, MPhil, Gradd Meistr trwy Gwrs

Y mae'r Cyfarwyddwr Astudiaethau Uwchraddedig yn cynnal rhaglen gyflwyno dau-ddiwrnod yn flynyddol ar gyfer myfyrwyr uwchraddedig newydd ar ddechrau pob sesiwn, a gall y myfyrwyr hynny sy'n cychwyn ar eu hymchwil ar adegau eraill o'r flwyddyn fynychu'r gweithgaredd hwn y tro nesaf y'i cynhelir. Yn ogystal, mae gan y Cyfarwyddwr, mewn cydweithrediad â'r adrannau, gyfrifoldeb cyffredinol dros nifer o Fodiwlau Hyfforddiant Ymchwil a chyflwynir y rhain fel rhan o'r rhaglen hyfforddi uwchraddedig. Yn ogystal, y mae'r Cyfarwyddwr yn cynhyrchu llyfryn, ac yn ei ddiweddaru'n rheolaidd, sef Côd Ymarfer ar gyfer Graddedigion Ymchwil, sy'n disgyn o fewn ei ddogfen strategol ar Hyfforddi Uwchraddedigion. Cymhwysir anghenion hyfforddi i ateb gofynion y gwahanol Gynghorau Ymchwil.

Cynhelir Pwyllgorau Monitro Uwchraddedigion Ymchwil y Gyfadran ym mis Gorffennaf a mis Chwefror bob sesiwn i fonitro cynnydd graddedigion ymchwil. Fel rhan o'r broses hon, mae'r Pwyllgorau hefyd yn adolygu Llawlyfrau'r Adrannau a gynhyrchir gan bob Adran o fewn y Gyfadran i roi arweiniad i'w Uwchraddedgion ac i esbonio'r holl drefniadaeth ar gyfer monitro cynnydd, ar gyfer goruchwylio a mentora, ac ar gyfer ymdrin ag unrhyw gwynion neu achosion o arferion annheg a allai godi.

Adolygir y cwestiwn o oruchwylio yn gyson, trwy Swyddfa'r Cyfarwyddwr Astudiaethau Uwchraddedig, trwy'r Cyfadrannau, a thrwy Swyddfa Personél yn nhermau datblygiadau yn hyfforddiant ac achredu arolygwyr uwchraddedig.

Yn ogystal, mae'r Adrannau yn cynnal eu gweithgareddau cyflwyno pwnc-benodol hwy eu hunain, yn cynhyrchu eu Llawlyfrau i Raddedigion ac yn goruchwylio addysg eu hymchwilwyr ifainc trwy Gyfarwyddwyr Ymchwil Adrannol, a Chydlynwyr Uwchraddedig Adrannol. Arferiad a argymhellir o fewn y Sefydliad yw cael dau arolygwr ar gyfer myfyriwr PhD, neu fel arall cael un arolygwr ac un asesydd annibynnol, a dylid nodi cylch gorchwyl yr arolygwyr hyn yn Llawlyfrau'r Adrannau i aelodau o'r staff, yn ogystal â'r llawlyfrau i Raddedigion. Ar lefel adrannol, mae arferion yn amrywio ond elfen sy'n gyffredin yw'r ddarpariaeth o fodiwlau hyfforddi (e.e. sgiliau ymchwil, sgiliau cyfathrebu, sgiliau proffesiynol), darpariaeth reolaidd o seminarau gan siaradwyr o'r tu allan ac amrediad eang o gyrsiau hyfforddi sydd ar gael trwy'r Gwasanaethau Gwybodaeth. Y mae hefyd yn arferol i Uwchraddedigion ddarparu nifer o gyflwyniadau ar eu gwaith yn ystod hynt eu hastudiaethau ac i gael cyfleoedd i fynychu cynadleddau academaidd a chyfranogi ynddynt.